Yn y weminar gyflwyniadol hon, byddwn yn archwilio:
- Beth yw ystyr presgripsiynu cymdeithasol?
- Sut i drosglwyddo elfennau o’r arfer i leoliadau gweithle i wella llesiant cymdeithasol ac emosiynol.
- Rôl dylunio ‘bioffilig’, ‘gwyrddu’, a ‘chysylltiad â natur’ fel elfennau allweddol o hyrwyddo llesiant seicolegol mewn amgylcheddau gwaith, cymunedol a gartref.
- Syniadau ymarferol i’w rhoi ar waith
- Dulliau a ddefnyddiwyd i ddatblygu perthynas agosach â natur a’n ‘hunain ecolegol’ fel rhan o fywyd gartref a gweithio o ddydd i ddydd
- Sut i ddysgu mwy
Cofrestrwch yma
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2021. Mae’r gweithdy wedi’i ddatblygu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda chefnogaeth gan TUC Cymru ac wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.