Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol, creadigedd, y celfyddydau, neu’r diwydiannau creadigol, naill ai fel hobi neu yrfa yn y dyfodol.
Archebwch le ar gymaint o’r sesiynau isod ag y dymunwch ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld!
I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 21 674585. Gallwch ddod ar y diwrnod heb archebu lle os yw capasiti yn caniatáu.
Cerddoriaeth: Cerddoriaeth mewn cyd-destun
Dydd Llun 23 Mai, 1.30pm - 3.30pm a dydd Mawrth 24 Mai, 10am - 12pm
Dewch i archwilio sut mae darnau o gerddoriaeth yn cael eu llunio gan yr amseroedd, lleoedd a’r amgylchiadau y’i crëwyd ynddynt. Sut ydy’r hyn sy’n digwydd yn y byd ar un bryd neu gilydd yn dylanwadu gwaith y cerddor? Dewch i ddarganfod.
Cerddoriaeth: Opera: ddim yn mynd â’ch bryd?
Dydd Mawrth 24 Mai, 1.30pm - 3.30pm a dydd Mercher 25 Mai, 10am - 12pm
Gall pawb fwynhau opera a bydd y gweithdy hwn yn profi’r union hynny! Byddwn yn dechrau drwy wrando ar ddarn o opera. Gyda’n gilydd, byddwn yn ceisio adnabod y gwahanol elfennau/technegau a ddefnyddiwyd a’u cysylltu â’r effaith a gânt ar y gwrandawyr. Sut mae’r darn hwn o gerddoriaeth yn gwneud i chi deimlo? Beth ydych chi’n credu yw’r rheswm dros hynny?
Cerddoriaeth: Beth yw’r ‘blues’ ac o ble mae’n dod?
Dydd Mercher 25 Mai, 1.30pm -3.30pm a dydd Iau 26 Mai, 10am - 12pm
Beth yw cynnydd cordiau ‘blues’ 12-bar? Beth yw nodau ‘blue’? Pa fath o themâu a genir fel arfer a pham? Bydd y gweithdy hwn yn trafod gwahanol ganeuon ‘blues’ i ddysgu mwy am y traddodiad cerddorol hwn a’i ddatblygiadau.
Cerddoriaeth: Y fesen yn dderwen a ddaw: gweithdy ymarferol yn ymdrin â sut mae cyfansoddwyr yn mynd ati i ddatblygu eu cyfansoddiadau
Dydd Mercher 22 Mehefin, 1.30pm - 3.30pm
Dydd Iau 23 Mehefin, 10am - 12pm
Dydd Gwener 24 Mehefin, 10am - 12pm
Dydd Sadwrn 25 Mehefin, 10am - 12pm, a 1.30pm - 3.30pm
Yn y gweithdai hyn byddwn yn meddwl am syniad cerddorol syml, ac yna’n archwilio ffyrdd gallwn ni ddatblygu’r deunydd hwn yn ddarn cyflawn o gerddoriaeth. Gan y bydd bob gweithdy’n cychwyn â ‘hadyn’ cerddorol gwahanol, byddwn yn creu gwahanol gerddoriaeth a gwahanol drafodaethau bob tro, felly cewch ymuno â hynny o’r sesiynau ag y dymunwch.
Byddwn hefyd yn edrych ar y ffordd mae syniadau cerddorol yn cael eu trawsnewid gan wahanol offerynnau, y ffordd cânt eu chwarae, a’r ffyrdd maent yn cynhyrchu sŵn. Defnyddir technoleg ddigidol, ynghyd ag unrhyw offerynnau a ddarperir gan gyfranogwyr, i ddod â’r syniadau cerddorol a ddatblygir drwy’r gweithdy yn fyw.
Nid oes angen profiad nac offerynnau cerddorol, ond os ydych chi yn chwarae offeryn, dewch ag e gyda chi!
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw