Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol, creadigedd, y celfyddydau, neu’r diwydiannau creadigol, naill ai fel hobi neu yrfa yn y dyfodol
Archebwch le ar gymaint o’r sesiynau isod ag y dymunwch ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld!
I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 21 674585. Gallwch ddod ar y diwrnod heb archebu lle os yw capasiti yn caniatáu..
Ysgrifennu Creadigol: Llunio ffuglen
Dydd Sadwrn 28 Mai, 10.30am - 12pm a 1.30pm - 3pm
Dewch i gael eich ysbrydoli gan ystod o straeon i ysgrifennu’n greadigol. Byddwn yn edrych ar ffuglen, ffuglen feicro a straeon byrion er mwyn ystyried yr elfennau sylfaenol o adrodd straeon ac archwilio sut rydym yn creu straeon.
Ysgrifennu Creadigol: Ffurfiau o farddoniaeth a libreto
Dydd Sadwrn 11 Mehefin, 10.30am - 12pm a 1.30pm - 3pm
Dewch i gael eich ysbrydoli gan ystod o farddoniaeth i ysgrifennu’n greadigol yn cynnwys ysgrifennu libreto a rhyddiaith ar gyfer opera a theatr.
Ysgrifennu Creadigol: Bwrw iddi! Hanfodion sgriptio
Dydd Sadwrn 18 Mehefin, 10.30am - 12pm a 1.30pm - 3pm
Dewch i gael eich ysbrydoli gan ystod o ddeunydd sgriptio i ddechrau ysgrifennu’n greadigol. Byddwn yn archwilio’r gwaith o ysgrifennu sgriptiau, gan ystyried yr hanfodion o greu cymeriad, ysgrifennu deialog credadwy, dychmygu lleoliad, a datblygu naratif.
Ysgrifennu Creadigol: Gorsaf Greadigol
Dydd Sadwrn 18 Mehefin, 10.30am - 12pm
Cyflwyniad i ysgrifennu creadigol.
Ysgrifennu Creadigol: Dod â Stori’n Fyw
Dydd Sadwrn 18 Mehefin, 1.30pm - 3pm
Ar ddiwedd y dydd bydd gennych stori i fynd adref gyda chi.
Ysgrifennu Creadigol: Sut i Ysgrifennu Cerdd
Dydd Sadwrn 25 Mehefin, 10.30am - 12pm
Synnwch eich hun drwy ysgrifennu cerdd i fynd adref gyda chi.
Ysgrifennu Creadigol: Barddoniaeth rhan 2
Dydd Sadwrn 25 Mehefin, 1.30pm - 3pm
Dewch â cherdd sy’n perthyn i chi (neu un o’ch hoff gerddi) i gael awgrymiadau ar sut i ddarllen neu berfformio ar lafar.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw