You are here

  1. Hafan
  2. Newid eich gyrfa i addysgu

Newid eich gyrfa i addysgu

Dyddiad
Dydd Mercher, Chwefror 15, 2023 - 19:00 tan 19:45
Lleoliad
Ar-lein: Teams
Cysylltwch
TAR Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Ymunwch â ni ar 15 Chwefror am noson agored ar-lein wrth i ni egluro sut allai cwrs TAR arloesol y Brifysgol Agored yng Nghymru eich cefnogi i ddechrau ar yrfa newydd yn y maes addysgu.

Yn ystod y digwyddiad ar-lein, bydd ein tîm TAR arbenigol yn egluro mwy am ein llwybrau TAR rhan amser a chyflogedig unigryw sydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi i astudio o amgylch eich bywyd ac ennill cyflog wrth ichi ddysgu.

Mae'r ddau lwybr yn eich galluogi i gydbwyso eich astudiaethau a'ch ymrwymiadau presennol fel bod yn rhiant, gofalu a gweithio.

Byddwch yn clywed gan ein hathrawon dan hyfforddiant presennol wrth iddynt drafod eu profiadau, a byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i'r panel.

Cofrestrwch yma

Caiff y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ei gyflwyno ar y cyd ag Addysgwyr Cymru.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws