You are here

  1. Hafan
  2. REACH Blaenau Gwent: gweithdai am ddim - Canolfan Gymunedol Wyndham Vowles

REACH Blaenau Gwent: gweithdai am ddim - Canolfan Gymunedol Wyndham Vowles

Dyddiad
Dydd Llun, Mai 16, 2022 - 13:00 tan Dydd Llun, Mehefin 27, 2022 - 16:30
Lleoliad
Canolfan Gymunedol Wyndham Vowles, Stryd y Goron, Abertyleri NP13 1PJ
Cysylltwch
Partneriaethau Cymru

Gweithdai hwyliog a chyfeillgar mewn celf, ysgrifennu creadigol, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd

Mae'r sesiynau AM DDIM ac yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad. Ar gyfer unigolion dros 16 oed.

Bydd yr un gweithdai’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoedd ar amrywiaeth o ddyddiadau er mwyn rhoi digon o ddewis i chi.

Cewch archebu lle ar gymaint o’r sesiynau ag y dymunwch.  Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich cyfarfod chi.

I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 2167 4585

Celf weledol
Archwiliwch hanes a threftadaeth eich ardalleol drwy’r celfyddydau gweledol. Cynhelir ysesiynau hyn ar y cyd gydag artistiaid gweledola haneswyr celf, gan eich cynorthwyo i ddeallcelf yn well yn ogystal â chreu gwaith celf eichhun. 
Celf weledol 1 Mercher 27 Ebrill 13:00 - 15:00
Celf weledol 2 Mercher 11 Mai 13:00 - 15:00
Celf weledol 3 Mercher 8 Mehefin 13:00 - 15:00

Cynaliadwyedd: Bywyd anghynaladwy    
Dewch i archwilio dyfodol amgen ar gyfer yr ardal drwy ailystyried eich gweithredoedd ac arferion dyddiol yn amgylchedd Blaenau Gwent. Gall y gweithdai gynnwys mynd am dro tu allan i’r lleoliad er mwyn cysylltu â’r amgylchedd o’ch cwmpas chi.
Cynaliadwyedd 1  16 Mai 13:00 - 14:30
Cynaliadwyedd 2 Gwener 20 Mai 10:00 - 12:30
Cynaliadwyedd 3 Gwener 10 Mehefin 10:00 - 11:30

Ysgrifennu Creadigol am hwyl
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion i ysgogi eich creadigrwydd. Byddwch yn ymchwilio hanes a chymeriadau lleol ac yn eu defnyddio fel sail i stori, sgript neu gerdd. Byddwch hefyd yn ymarfer paentio lluniau gyda geiriau i greu cerdd neu ryddiaith ddisgrifiadol. 
Ysgrifennu creadigol 1 Gwener 20 Mai 13:00 - 14:30
Ysgrifennu creadigol 2 Gwener 1 Gorffennaf 13:00 - 14:30
Ysgrifennu creadigol 3 Gwener 8 Gorffennaf 13:00 - 14:30

Cyflogadwyedd: Gwener 24 Mehefin
Sesiwn 1: 10:00 - 11:30  Sesiynau rhyngweithiol a hwyliog sy’n ymdrin â brandio personol a meithrin sgiliau cyfweld.
Sesiwn 2: 13:00 - 14:30  Syniadau entrepreneuraidd.
Sesiwn 3: 15:00 - 16:30  Mentrau cymdeithasol sy’n ymdrin â materion y gymuned leol

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws