You are here

  1. Hafan
  2. Bethany yn llwyddo i gael swydd mewn elusen blant gyda help rhaglen gyflogadwyedd

Bethany yn llwyddo i gael swydd mewn elusen blant gyda help rhaglen gyflogadwyedd

Bethany smiling outside of a building

Yma, mae’r raddedig Bethany Turner yn sôn am y modd y daeth o hyd i swydd ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen gyflogadwyedd. Ymunodd â rhaglen GROW y Brifysgol Agored yng Nghymru er mwyn cael rhywfaint o brofiad i’w ychwanegu at y cymhwyster a oedd ganddi’n barod.

Ar ôl iddi orffen ei gradd mewn Seicoleg, cafodd Bethany dipyn o drafferth i ddod o hyd i waith oherwydd doedd ganddi ddim llwybr penodol dan sylw.

‘Fe wnes i raddio gyda BSc (Anrhydedd) dosbarth cyntaf mewn Seicoleg, ond roeddwn i’n cael trafferth i benderfynu beth i’w wneud, oherwydd doeddwn i ddim eisiau dilyn y llwybr Seicoleg traddodiadol,’ medd Bethany. ‘Felly, dechreuais wirfoddoli er mwyn helpu fy nghymuned leol wrth inni ddod allan o anterth y pandemig. Ochr yn ochr â hyn, roeddwn i’n chwilio am waith yn ymwneud â’r profiad hwn a fy mhrofiad gwaith blaenorol.’

Penderfynu ar y camau nesaf

Cyfarfu Bethany â Julie, sef cynghorydd cyflogadwyedd GROW, er mwyn ei helpu i benderfynu ar ei chamau nesaf. Llwyddodd y rhaglen i’w pharu â rôl daledig gyda Plant yng Nghymru, sef y corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau a phobl sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Gweithiodd Bethany gyda phartneriaid a phobl ifanc i droi poster Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc yn ddogfen hygyrch i blant a phobl ifanc fyddar.

Rydw i’n ddiolchgar iawn i raglen GROW ac am bopeth y mae wedi’i roi imi!

‘Rhoddodd y lleoliad profiad gwaith hwn gyfle imi gael llu o brofiadau newydd ac mae wedi rhoi ffordd imi allu ymuno â’r byd gwaith – ffordd na fuaswn wedi dod o hyd iddi fel arall – yn ogystal â chynghorydd cyflogadwyedd cefnogol,’ ychwanega.

Ar ddiwedd ei lleoliad, penderfynodd Plant yng Nghymru eu bod yn dymuno parhau i gyflogi Bethany. Bellach, mae hi’n weithiwr ymgysylltu ac mae’n gweithio i’r sefydliad ers sawl mis. Mae hi wrth ei bodd gyda’r cyfle a gafodd ac mae hi’n mwynhau gweithio fel rhan o’r tîm.

‘Rydw i wedi gweithio ar brosiectau gwirioneddol amrywiol yn Plant yng Nghymru, a nawr rydw i’n cael ysgwyddo ychwaneg o gyfrifoldeb trwy arwain prosiectau tymor hwy gyda phobl ifanc,’ medd Bethany. ‘Hefyd, rydw i’n parhau i gynorthwyo fy nghydweithwyr gyda phrosiectau mwy, fel mynd â chriw o bobl ifanc i’r Cenhedloedd Unedig yn Genefa er mwyn iddyn nhw gael dweud eu dweud ynglŷn â Hawliau Plant yng Nghymru.’

Yn ogystal â threfnu ei lleoliad, mae’r rhaglen wedi rhoi ychwaneg o gymorth cyflogadwyedd i Bethany.

‘Yn ystod fy lleoliad, fe wnaeth fy nghynghorydd fy helpu i chwilio am swyddi, gan fwrw golwg dros geisiadau a rhoi cyngor imi ynglŷn â strategaethau cyfweld,’ esbonia.

Dewis perffaith i anghenion y sefydliad

Yn dilyn llwyddiant Bethany yn ystod ei lleoliad gyda Plant yng Nghymru, bydd graddedig GROW arall yn ymuno â’r elusen fel rhan o’r tîm polisi.

‘Cafodd Bethany ei pharu’n berffaith ag anghenion ein sefydliad gan ei chynghorydd lleoliad GROW,’ medd Paula Timms, cyfarwyddwr datblygu busnes a chyflawni yn Plant yng Nghymru. ‘Rydym wrth ein bodd bod Bethany wedi cael cyfle i roi cynnig ar senario gwaith go iawn gyda sicrwydd cynllun lleoliadau taledig yn y maes Hawliau Plant yng Nghymru.

‘Mae Plant yng Nghymru yn ceisio bod yn gyflogwr hygyrch, gan hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y Sector Plant, felly mae cynllun GROW yn ffordd wych o sicrhau bod Pobl Ifanc yn cael y cyfle hwnnw, yn enwedig wrth ymuno â’r byd gwaith am y tro cyntaf. Mae Bethany wedi dod â sgiliau a threiddgarwch newydd i’r tîm ac mae hi’n Weithiwr Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr Ifanc eithriadol o werthfawr. Rydym yn obeithiol iawn ynglŷn â’i gyrfa gyda ni yn y dyfodol.’

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891