You are here

  1. Hafan
  2. Cyflwyno’r cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb newydd

Cyflwyno’r cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb newydd

Casgliad o fyfyrdodau daeth o lansiad yr adnoddau

Bellach gall athrawon yng Nghymru gael mynediad at adnoddau newydd arloesol wrth iddynt baratoi i gyflwyno’r cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb newydd. 

Mae’r Athro EJ Renold o Brifysgol Caerdydd wedi gweithio â’r Athro Cath Mercer o Goleg Prifysgol Llundain (UCL), a’r Athro Jacqui Gabb a Dr Mathijs Lucassen o’r Brifysgol Agored, yn ogystal â’r elusen iechyd rhywiol Brook, ar y prosiect Engaging Sexual Stories. Gwnaed defnydd o’r celfyddydau creadigol a thechnolegau ar-lein i gynhyrchu ystod o adnoddau dwyieithog i’w defnyddio’n rhad ac am ddim ac fe’u llywiwyd gan Arolwg Cenedlaethol Ffyrdd o Fyw ac Ymddygiadau Rhywiol (Natsal). 

Yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad ar gyfer addysgwyr sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd, mae adnoddau’r prosiect yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes iechyd rhywiol a rhyw. Gan ddefnyddio canfyddiadau arolwg Natsal-3, mae adnoddau rhyngweithiol OpenLearn yn galluogi ymwelwyr i archwilio ffeithiau ynglŷn â rhyw ac ymagweddau rhywiol ym Mhrydain.

'Wrth i gyfnod newydd ar gyfer dysgu am gyd-berthnasoedd a rhywioldeb ddechrau yng Nghymru, mae’n hanfodol bwysig bod athrawon ac ymarferwyr yn derbyn hyfforddiant gorau ar sail tystiolaeth er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn wirioneddol gyflawni ei nodau,' meddai'r Athro EJ Renold, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. 'Gobeithiwn y bydd yr adnoddau newydd hyn yn grymuso ac yn ysbrydoli gweithwyr proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ledled y DU, ac yn sicrhau bod llesiant plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i’w haddysg.' 

Cafodd yr adnoddau eu datblygu gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Mae bob un ohonom yn credu ein bod yn gwybod am ryw, ond mae’r wybodaeth hon wedi’i rhagosod ar achlust a phrofiad personol. Mae pobl angen gwybodaeth am ryw sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn chwalu’r mythau anwir sy’n bodoli ynglŷn â rhyw. Mae adnoddau OpenLearn yn galluogi ymarferwyr iechyd rhywiol a’r boblogaeth gyffredinol i ddysgu am ryw drwy adnoddau rhyngweithiol diddorol a hwyliog sydd ar gael am ddim.

Jacqui Gabb
Athro Cymdeithaseg a Chyfathrach yn Y Brifysgol Agored

Lansiodd y tîm yr adnoddau mewn digwyddiad arbennig yn Pierhead Senedd Cymru yr wythnos diwethaf, a noddwyd gan Jenny Rathbone AS.

Daeth Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb yn orfodol mewn ysgolion uwchradd yn Lloegr yn 2020. 

Mae Kelly Harris yn Arweinydd Cyfranogiad a Datblygiad Busnes yn Brook Cymru. 'Drwy dynnu ar ymchwil ac arbenigedd o’r prosiect Engaging Sexual Stories, roeddem yn gallu creu cwrs eDdysgu Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb hollbwysig a diddorol newydd sbon ar gyfer gweithwyr proffesiynol,' meddai. 'Bydd y cwrs rhagarweiniol yn helpu i ddatblygu hyder y rhai sy’n cyflwyno’r cwricwlwm newydd ac yn ategu at ein hystod gynhwysfawr o eDdysgu hunangyfeiriedig sydd ar gael am ddim ar Brook Learn.'

Natsal yw un o’r arolygon gwyddonol ymddygiad rhywiol mwyaf yn y byd. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 1990 ac ers hynny mae wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd. 

'Ers dros 30 o flynyddoedd mae Natsal wedi cael effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer, ac wedi chwarae rhan allweddol yn sgyrsiau’r cyhoedd ynghylch rhyw ac iechyd rhywiol, ond mae’r adnoddau ar sail tystiolaeth, rhyngweithiol, newydd hyn yn mynd ag ymgysylltiad y cyhoedd â Natsal i lefel newydd,' ychwanegodd Cath Mercer, Athro Gwyddor Iechyd Rhywiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrif Ymchwilydd astudiaeth Natsal.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891