You are here

  1. Hafan
  2. Cyhoeddi ymchwil newydd i wasanaethau ar gyfer teuluoedd mewn galar

Cyhoeddi ymchwil newydd i wasanaethau ar gyfer teuluoedd mewn galar

Coeden unig ar ddiwedd cae, gydag awyr las.

Mae’r Brifysgol Agored wedi cyhcwyn astudiaeth newydd i’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol a’i effaith ar deuluoedd mewn galar.

Cyflwynwyd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol ym mis Ionawr 2021. Meddygon cymwys yw archwilwyr meddygol sy’n annibynnol oddi wrth y rhai fu’n gofalu am yr ymadawedig. Maent yn asesu cofnodion meddygol pobl sydd wedi marw, ac yn nodi achos y farwolaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn galluogi teuluoedd i ofyn cwestiynau am y gofal a roddwyd i’w hanwyliaid gan wasanaethau iechyd.

Mae’r Brifysgol Agored yn chwilio am aelodau teulu sy’n fodlon rhannu eu straeon a’u profiadau o gyfathrebu â’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â’r Prif Ymchwilydd Dr Kerry Jones. Bydd Kerry yn egluro sut mae’r astudiaeth yn gweithio ac yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Bydd cyfweliadau’n cymryd 45-60 munud a rhoddir taleb Amazon gwerth £50 i chi am eich amser. 

Cysylltwch

Bydd y gwaith ymchwil dan arweiniad Dr Kerry Jones, Uwch Ddarlithydd Gofal Diwedd Oes yn y Brifysgol Agored, a chyd-gadeirydd Grŵp Ymchwil Gofalwyr y brifysgol. Yn ymuno â hi bydd Sharon Mallon Uwch Ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol a Llesiant ym Mhrifysgol Swydd Stafford, sydd hefyd yn gyn-academydd yn y Brifysgol Agored.

‘Drwy ddod i ddeall mwy am y ffordd mae’r gwasanaeth hwn yn cyfathrebu â theuluoedd ar ôl marwolaeth anwylyn, gallwn helpu i lywio’r gwasanaeth wrth ei gyflwyno ledled Cymru a Lloegr,’ meddai Dr Jones.

‘Hoffem siarad ag unrhyw un sydd wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Gwyddom y gall siarad am farwolaeth anwylyn a’r galar a ddaw yn ei sgil fod yn anodd. Gallwn eich sicrhau bod gan ein hymchwilwyr brofiad o siarad â theuluoedd ynglŷn â galar a byddant yn eich cefnogi chi drwy gydol eich cyfraniad i’r astudiaeth hon.’

Os ydych chi wedi profi profedigaeth ac yn chwilio am gymorth, gall y sefydliadau canlynol helpu:

  • AtaLoss.org - Cymorth a chyngor ar brofedigaeth a’ch cyfeirio chi at y cymorth mwyaf priodol ar ôl profi profedigaeth.
  • Gofal mewn Galar CRUSE – Cefnogaeth mewn galar ledled Cymru (a’r DU).
  • Shout 85258 - Gwasanaeth testun am ddim i unrhyw un sy’n chwilio am gymorth brys ar gyfer eu hiechyd meddwl. Ond os ydych yn fyfyriwr y Brifysgol Agored, anfonwch ‘OU’ drwy neges destun i 85258

Os ydych yn fyfyriwr y Brifysgol Agored ac yn profi unrhyw beth sy’n effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Tîm Cymorth Myfyrwyr.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891