You are here

  1. Hafan
  2. Plant ysgol o Gymru yn helpu NASA i achub y blaned rhag ergydion asteroid

Plant ysgol o Gymru yn helpu NASA i achub y blaned rhag ergydion asteroid

Mae plentyn ysgol yn cael ei chefnogi i edrych ar ddata asteroid ar liniadur

Americanwyr sy'n achub y Ddaear rhag effaith ddinistriol asteroid neu gomed mewn ffilmiau o Hollywood megis Armageddon, Deep Impact neu'r un ddiweddaraf, Don’t Look Up. Ond mae plant ysgol o Gymru yn cymryd rhan nawr hefyd, gan arsylwi asteroid i gynorthwyo gorchwyl cyffrous NASA, gyda help myfyriwr PhD Y Brifysgol Agored, a chyllid gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. 

Mae NASA a phartneriaid ledled y byd yn edrych ar opsiynau gwirioneddol i 'Amddiffyn Planedau', ac wedi mynd ati i brofi un ohonynt mewn ffordd ddramatig - gwthio asteroid oddi ar ei lwybr drwy yrru llong ofod i mewn iddo. 

Mae gorchwyl DART - Prawf Ailgyfeirio Asteroid Dwbl - yn targedu system asteroid dwbl sy'n cynnwys Didymos (780m/hanner milltir ar draws), a'i leuad fechan sef Dimorphos (160m/530 troedfedd ar draws).   

Ychydig ar ôl hanner nos ar 26 Medi 2022, tarodd y llong ofod, sydd yr un maint â char, Dimorphos ar gyflymder o tua 6km/4 milltir yr eiliad, gyda'r bwriad o newid ei orbit o amgylch Didymos. Cafodd CubeSat bychan o'r enw LICIACube, a adeiladwyd gan Asiantaeth Ofod Yr Eidal, ei wahanu oddi wrth DART ychydig wythnosau yn ôl a bydd yn arsylwi'r gwrthdrawiad yn agos. 

Cyn y trawiad, roedd Dimorphos yn cymryd ychydig yn llai nag 12 awr i gwblhau orbit llawn o amgylch Didymos. Bydd y trawiad yn cael effaith ar hyn, ac mae'r gwyddonwyr eisiau gwybod i ba raddau. Dyma lle mae arsylwyr ar y Ddaear, gan gynnwys ysgolion yng Nghymru, yn mynd i fod o gymorth. 

Mae Helen Usher, myfyriwr PhD yn Y Brifysgol Agored o Hengoed, de Cymru, yn arwain y rhaglen arsylwi DART ar gyfer prosiect ‘Comet Chasers’. Cred y bydd data'r ysgolion yn ddefnyddiol iawn i NASA. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid NASA i sicrhau y gellir defnyddio ein harsylwadau fel rhan o'r set ddata mwy o faint er mwyn cynorthwyo'r gwaith o ddadansoddi canlyniadau'r gwrthdrawiad - mae cael mwy o bwyntiau data bob amser yn beth da!

Helen Usher
Myfyriwr PhD, Y Brifysfol Agored

Gweithio gydag ysgolion yng Nghymru

ae'r rhaglen arsylwi yn rhan o brosiect addysg arloesol o'r enw Comet Chasers, sy'n dod ag arsylwadau gwyddonol gwirioneddol i'r ystafell ddosbarth. Caiff tîm y prosiect ei arwain gan ymchwilwyr o'r Brifysgol Agored a Phrifysgol Caerdydd, gan weithio ochr yn ochr ag addysgwyr a seryddwyr amatur. Mae'r prosiect eisoes wedi galluogi plant ysgol o Gymru i weithio gydag ymchwilwyr rhyngwladol ar sawl prosiect gan astudio comedau ac asteroidau. Mae'r ysgolion wedi bod yn gosod arsylwadau a chasglu a dadansoddi data. Pan fydd ymchwilwyr partner yn cyhoeddi eu canfyddiadau, caiff yr ysgolion eu cydnabod hefyd. Mae ysgolion yn teimlo'n gyffrous o weld eu henwau yn y papurau ac ar y we. 

Mae disgyblion yng Nghymru yn cynnal arsylwadau gyda thelesgopau mawr (1-metr a 2-fetr) yn rhwydwaith Arsyllfa Las Cumbres (LCO) o'u hystafelloedd dosbarth yn yr ysgol i helpu gwyddonwyr i fesur yr orbit yn gywir. Hyd yn hyn mae plant o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Trefaldwyn, Ysgol Gynradd White Rose, Tredegar Newydd, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Caerdydd, ac Ysgol Bro Edern, Caerdydd wedi cyflwyno ceisiadau arsylwi. Ymunodd ysgolion Aberaeron, Brynrefail, Rhydypennau, Bodedern, a Llanerch y Medd â nhw wrth iddynt gymryd rhan yn y prosiect yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ym mis Awst. Bydd mwy o ysgolion yn ymuno â'r rhaglen dros y misoedd nesaf.   

Mae'r offerynnau gradd ymchwil mawr hyn ar gael ledled y byd (e.e. yn Hawaii, Awstralia a De Affrica) drwy brosiect addysg Telesgob Faulkes. Bydd data ysgolion Cymru yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â data LCO eraill ar gyfer cynnal dadansoddiad manwl o effaith y trawiad ar y system asteroid dwbl.   

Mae'r adborth a gasglwyd gan rai o'r disgyblion sydd wedi cymryd rhan yng nghamau arsylwi cychwynnol gorchwyl DART yn dangos eu bod yn ystyried y gwaith yn gyffrous ac yn mwynhau meddwl bod eu data yn helpu NASA i ddatblygu ei gynlluniau i amddiffyn y Ddaear. Dywedodd myfyriwr Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr: 'Ry'n ni o dan bwysau. Mae'r arsylwi hwn ar gyfer NASA! Rwy'n gweithio i NASA!' 

Defnyddio'r data

'Mae'n gyfle gwych i ysgolion ymgysylltu â gwyddoniaeth, a bydd y data a ddarperir gan ein hysgolion partner ledled Cymru yn rhan o'r data a fydd yn cael eu defnyddio gan NASA i benderfynu os oedd eu gorchwyl yn un llwyddiannus.' meddai'r Athro Paul Roche o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. 'Mae'n rhyfedd meddwl y bydd yr arsylwadau a wneir gan ein hysgolion o help mawr i gynlluniau'r dyfodol i amddiffyn y Ddaear rhag asteroidau.' 

‘Bydd y data o ysgolion Cymru yn ddefnyddiol i'r prosiect DART wrth astudio canlyniadau effaith y llong ofod, ac yn arbennig sut mae’r gynffon yn newid ac yn esblygu dros amser,’ meddai Tim Lister, aelod o dîm ymchwilio prosiect DART. 'Bydd mesur twf hyd y gynffon gydag amser yn helpu ymchwilwyr i ddeall priodweddau'r deunydd ejecta,' ychwanegodd Matthew Knight, arweinydd y tîm ar ddeunyddiau ejecta. 'Felly yn rhoi mewnwelediad ychwanegol i effaith DART ei hun.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891