You are here

  1. Hafan
  2. Y Brifysgol Agored i arwain y rhwydwaith academaidd ymchwil i bolisi cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth cyntaf ar draws y DU ac Iwerddon

Y Brifysgol Agored i arwain y rhwydwaith academaidd ymchwil i bolisi cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth cyntaf ar draws y DU ac Iwerddon

Cynulleidfa o bobl mewn cyfarfod trafod polisi

Mae menter polisi cyhoeddus fawr, newydd, sef PolicyWISE, yn cael ei datblygu gan y Brifysgol Agored. PolicyWISE fydd y rhwydwaith cyntaf o academyddion a gweision sifil yn y DU i fynd i'r afael ag ymchwil cymharol i bolisi cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth ar draws pedair cenedl y DU ac Iwerddon. 

Bydd gweithio ar draws y cenhedloedd yn galluogi PolicyWISE i weithredu dull cymharol bwriadol i greu polisïau cyhoeddus yn y DU ar ôl datganoli a Brexit. 

Mae'r Brifysgol Agored wedi derbyn £1m o gyllid gan Dangoor Education i sefydlu PolicyWISE. Bydd yr arian yn cynorthwyo i lansio PolicyWISE yn 2023 a'i ddatblygu dros y pedair blynedd ganlynol.

Mae partneriaid o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Drindod Dulyn, Prifysgol Queen's Belfast, Prifysgol Caeredin a Choleg Prifysgol Llundain yn rhan o'r gwaith o lywio'i ddatblygiad.

Rydym eisiau defnyddio'r cryfderau ar draws ein cenhedloedd i helpu i greu polisi cyhoeddus gwell sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac i gymunedau.

Louise Casella
Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae cyfres gychwynnol o weithdai gyda llunwyr polisi, gweision sifil ac academyddion ar draws y cenhedloedd eisoes wedi archwilio'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd mewn polisi cyhoeddus ar draws themâu megis trais yn erbyn menywod a merched; iechyd meddwl; anghydraddoldeb addysgol yn dilyn Covid; iechyd plant a phobl ifanc a sero net.

'Bydd PolicyWISE yn dod â llunwyr polisi a dylanwadwyr polisi o bedair cenedl y DU ac Iwerddon ynghyd i archwilio heriau cymdeithasol allweddol ar ôl datganoli a Brexit,' meddai Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored. 'Wrth i greu polisi cyhoeddus ddod yn fwy amrywiol, bydd PolicyWISE yn rhoi cyfle i bobl gasglu eu dealltwriaethau, y prif bethau a ddysgwyd a'r arferion gorau ar draws y cenhedloedd.'

Mae PolicyWISE yn datblygu o strategaeth ymchwil y Brifysgol Agored hefyd – gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau cymdeithasol lleol a byd-eang, drwy ddylanwadu ar ddeilliannau sy'n cael effaith wirioneddol, a'u llywio.

'Rydym wrth ein bodd o dderbyn arian sylweddol gan Dangoor Education sy'n cydnabod potensial cyffrous PolicyWISE a phrofiad pedair cenedl yr OU i ddarparu dealltwriaethau cymharol,' ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd wedi arwain datblygiad PolicyWISE.

'Gan ein bod yn brifysgol unigryw sy'n gweithredu mewn pedair cenedl, ac yn Iwerddon hefyd, rydym mewn sefyllfa dda i weithredu fel cyswllt ar gyfer y fenter hon a dod â phartneriaid ynghyd i ddarparu dealltwriaethau cymharol. Rydym eisiau defnyddio'r cryfderau ar draws ein cenhedloedd i helpu i greu polisi cyhoeddus gwell sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac i gymunedau.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891