You are here

  1. Hafan
  2. Cynaliadwyedd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru

Cynaliadwyedd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru

Yn unol â’r Brifysgol Agored gyfan, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr ‘sero net’ erbyn 2050, drwy raglen o fesuriadau i leihau a lliniaru effaith amgylcheddol niweidiol ein gwaith.

Rydym wedi croesawu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gosod targedau o allyriadau sero net erbyn 2050, ac wedi mabwysiadu’r ‘Pum Ffordd o Weithio’ i gyflawni hyn. Mae ein gwneud penderfyniadau yn cynnwys: 

  • ystyried y tymor hir
  • helpu i atal problemau rhag codi neu waethygu
  • ymgymryd â dull integredig
  • ymgymryd â dull mwy cydweithredol
  • ystyried a chynnwys amrywiaeth o bobl o bob oed

Yn 2022, datblygwyd nod cynaliadwyedd fel rhan fel rhan o strategaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru. Rydym nawr yn sefydlu gweithgor i fonitro ei gynnydd.

Sut i gymryd rhan

Fel rhan o’n hymrwymiad i gyflawni sero net, rydym yn cynnig Hyfforddiant Llythrennedd Carbon am ddim i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol Agored. Mae’r cwrs hwn yn rhoi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd i ddefnyddwyr ac effaith ein gweithredoedd o ddydd i ddydd. Gallant fapio eu hôl troed carbon eu hunain, a dysgu sut i leihau allyriadau personol ac yn y gweithle.

Myfyrwyr: cofrestrwch yma

Staff: Cofrestrwch yma

Mae’r Pecyn trawsnewid digidol a gweithio’n hybrid ar Open Learn yn cynnig adnoddau addysgol ar-lein am ddim i hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio. Mae’r rhain yn ymgymryd â dull sy'n canolbwyntio fwy ar fodau dynol i ddatblygu eich sefydliad. Gallant gynorthwyo eich staff i ffynnu mewn byd digidol a hybrid - yn ogystal â phobl yn dechrau gweithio am y tro cyntaf.

Mae’r casgliad yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i annog arferion mwy cynaliadwy.

Cewch hyd i gyrsiau a deunyddiau am ddim eraill ar Hwb Cynaliadwyedd OpenLearn.

Mae Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN) yn cynnwys holl brifysgolion Cymru, yn cynnwys y Brifysgol Agored. Cafodd ei sefydlu fel bod modd i ni rannu ein hymchwil amrywiol a syniadau arloesol gyda'n gilydd, i gynorthwyo academyddion i ddod ynghyd fel bod ein gwaith yn cael mwy o effaith. Mae WIN wedi nodi Sero Net a datgarboneiddio fel maes ymchwil thematig. Mae dull gweithredu’r rhwydwaith yn dilyn y Pum Ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn cyd-fynd â’r rhan fwyaf o’u saith nod llesiant.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau misol i staff i wella eu hiechyd meddwl a llesiant, a hyrwyddo synnwyr o gymuned. Mae bob un o’r mentrau’n adlewyrchu nodau ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’n Pum Ffordd o Lesiant: cysylltu, bod yn actif, cymryd sylw, dal ati i ddysgu a rhoi.

Mae ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol wedi ei wneud yn rhan annatod drwy greu cyfleoedd i staff wneud newidiadau yn y gwaith a thu hwnt. Mae rhai gweithgareddau diweddar yn cynnwys:

  • Syrjeri Beic (bod yn actif, cymryd sylw) – mae mecanyddion beic proffesiynol yn ymweld â’r swyddfa yng Nghaerdydd i roi gwasanaeth i feiciau staff yn rhad c am ddim. Mae hyn yn annog staff i reidio beic i’r swyddfa, gan sicrhau diogelwch beiciau a thrwsio beiciau sydd wedi eu pasio ymlaen, sy’n hyrwyddo ailgylchu.
  • Siop Gyfnewid (rhoi, cysylltu) – rydym wedi cynnig cyfle i staff ddod ag unrhyw eitemau heb eu defnyddio a hen ond mewn cyflwr da i gael eu hail gartrefu ymysg cydweithwyr. 
  • Coed Caerdydd, digwyddiad plannu coed (rhoi, cymryd sylw, bod yn actif, dal ati i ddysgu) – rydym wedi gwahodd staff i fynychu digwyddiad plannu coed sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd yn ystod oriau gwaith. Mae’r fenter hon yn un o lawer yn strategaeth newid hinsawdd Un Blaned y ddinas. Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen 10 mlynedd i gynyddu’r nifer o goed yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwirfoddoli cymunedol lleol e.e. casglu sbwriel.

Rydym yn cymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwyedd sy’n digwydd ledled y brifysgol:

  • SBARC – wedi ei greu i gynorthwyo unedau greu cynlluniau gweithredu cynaliadwy. Cewch ragor o wybodaeth yma
  • Dyfodol Cyfrifol – fframwaith o newid a gyflwynwyd ledled y Brifysgol Agored gyfan i ymgorffori cynaliadwyedd yn y cwricwlwm, sy’n cael ei archwilio gan ein myfyrwyr ni
  • Heriau Cymdeithasol Agored – dechreuwyd y rhaglen ymchwil hon i ddod â thimau academaidd ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol allweddol ar y cyd.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan â Chynaliadwyedd yn y Brifysgol Agored, ewch i’n tudalen cynaliadwyedd ar y we.

Arweinydd cynaliadwyedd Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Dr Scott McKenzie

Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dysgu a’r Cwricwlwm

scott.mckenzie@open.ac.uk

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws