You are here

  1. Hafan
  2. REACH Blaenau Gwent: gweithdai am ddim - Canolfan Gymunedol Aberbîg

REACH Blaenau Gwent: gweithdai am ddim - Canolfan Gymunedol Aberbîg

Dyddiad
Dydd Iau, Mai 19, 2022 - 10:00 tan Dydd Gwener, Gorffennaf 8, 2022 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Gymunedol Aberbîg, Pant Ddu Rd, Abertyleri NP13 2BP
Cysylltwch
Partneriaethau Cymru

Gweithdai hwyliog a chyfeillgar mewn celf, ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd

Mae'r sesiynau AM DDIM ac yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad. Ar gyfer unigolion dros 16 oed.

Bydd yr un gweithdai’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoedd ar amrywiaeth o ddyddiadau er mwyn rhoi digon o ddewis i chi.

Cewch archebu lle ar gymaint o’r sesiynau ag y dymunwch.  Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich cyfarfod chi.

I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 2167 4585

Ysgrifennu Creadigol am hwyl
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion i ysgogi eich creadigrwydd. Byddwch yn ymchwilio hanes a chymeriadau lleol ac yn eu defnyddio fel sail i stori, sgript neu gerdd. Byddwch hefyd yn ymarfer paentio lluniau gyda geiriau i greu cerdd neu ryddiaith ddisgrifiadol 
Ysgrifennu creadigol 1 Gwener 20 Mai 15:00 - 16:30
Ysgrifennu creadigol 2 Gwener 1 Gorffennaf 15:00 - 16:30
Ysgrifennu creadigol 3 Gwener 8 Gorffennaf 15:00 - 16:30

Ffotograffiaeth
Dewch i gasglu ychydig o awgrymiadau ar ddefnyddio’r camera ar eich ffôn clyfar i gipio’r byd o’ch cwmpas, yn arbennig hanes a threftadaeth eich ardal leol. Mae’n rhaid i chi ddod â’ch ffôn clyfar eich hun gyda chi ar gyfer y gweithdai hyn.

Ffotograffiaeth 1 Iau 28 Ebrill10:30 - 12:00 neu Iau 12 Mai 10:30 - 12:00
Ffotograffiaeth 2 Iau 28 Ebrill 13:30 - 15:00 neu Iau 12 Mai 13:30 - 15:00
Ffotograffiaeth 3 Gwener 29 Ebrill 10:30 - 12:00 neu Gwener 13 Mai 10:30 - 12:00

Celf weledol 
Archwiliwch hanes a threftadaeth eich ardalleol drwy’r celfyddydau gweledol. Cynhelir ysesiynau hyn ar y cyd gydag artistiaid gweledola haneswyr celf, gan eich cynorthwyo i ddeallcelf yn well yn ogystal â chreu gwaith celf eichhun.  
Celf weledol 1 Iau 19 Mai 13:00 - 15:00
Celf weledol 2 Iau 26 Mai 13:00 - 15:00
Celf weledol 3 Iau 9 Mehefin 13:00 - 15:00

Cyflogadwyedd: Gwener 24 Mehefin

  • Sesiwn 1: 10:00 - 11:30  Sesiynau rhyngweithiol a hwyliog sy’n ymdrin â brandio personol a meithrin sgiliau cyfweld. 
  • Sesiwn 2: 13:00 - 14:30  Syniadau entrepreneuraidd.
  • Sesiwn 3: 15:00 - 16:30  Mentrau cymdeithasol sy’n ymdrin â materion y gymuned leol 

Cynaliadwyedd: Bywyd anghynaladwy   
Dewch i archwilio dyfodol amgen ar gyfer yr ardal drwy ailystyried eich gweithredoedd ac arferion dyddiol yn amgylchedd Blaenau Gwent. Gall y gweithdai gynnwys mynd am dro tu allan i’r lleoliad er mwyn cysylltu â’r amgylchedd o’ch cwmpas chi. 
Cynaliadwyedd 1 Gwener 13 Mai 14:00 - 17:00
Cynaliadwyedd 2 19 Mai 10:00 - 12:45
Cynaliadwyedd 3 Gwener 10 Mehefin 13:00 - 16:00

 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws