Graddiodd Tomos Brogden o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ystod Haf 2022 gyda BSc mewn Mathemateg ac Ystadegau. Ar ôl cael trafferth cael mynediad at brofiad gwaith perthnasol oherwydd y pandemig, fe wnaeth y rhaglen GROW ei helpu i roi hwb i'r yrfa.
‘Gadawodd y pandemig COVID fi heb unrhyw arwydd o sut i fynd ati i gael profiad gwaith yn y diwydiannau yr oeddwn eisiau mynd iddynt,’ meddai Tomos. ‘Daeth adeiladu rhwydwaith yn y sectorau hyn yn her o ganlyniad i’r pandemig, yn enwedig wrth astudio a pharatoi ar gyfer arholiadau ar yr un pryd.’
Roedd Tomos yn teimlo ei fod yn cael ei ddal yn ôl gan ei ysgol yn ystod ei astudiaethau Safon Uwch, o ran pethau fel cyfweliadau, creu CV, a rhwydweithio. Cafodd e-bost yn fuan ar ôl graddio i'w atgoffa bod Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol Agored yn cynnig cefnogaeth am hyd at dair blynedd ar ôl graddio. Trwy’r e-bost hwn, cafodd Tomos wybod am y rhaglen GROW hefyd.
Mae GROW yn rhoi cymorth gyrfa dwys i raddedigion, gan gynnwys apwyntiadau un i un gyda chynghorydd. Mae cyn-fyfyrwyr yn cael cymorth yn ystod pob cam o’r broses recriwtio, o ysgrifennu CVs, llythyrau eglurhaol a cheisiadau, i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu.
‘Roedd y rhaglen yn edrych fel y cyfle perffaith i mi’ eglurodd Tomos. ‘Roeddwn yn awyddus i dderbyn cyngor gan berson â mwy o wybodaeth na mi fy hun, a allai fy arwain drwy sefyllfaoedd nad oeddwn wedi eu profi eto, ac roeddwn eisiau dysgu sut i fireinio fy sgiliau ennill swydd yn well ar gyfer y dyfodol.’
‘Mae fy nghynghorydd GROW wedi bod yn rhagorol drwy gydol fy nghyfnod ar y rhaglen. Mae hi wedi dod o hyd i amrywiaeth eang o gyfleoedd wedi’u targedu ar fy nghyfer i ac mae hi wedi defnyddio cysylltiadau’r Brifysgol Agored â chwmnïau nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod amdanynt i ddod o hyd i’r rôl gywir i mi.’
Rwy’n llawer mwy hyderus wrth ymgeisio am y mathau hyn o rolau, yn ogystal â chael mwy o brofiad i fynd amdani wrth ymgeisio am swyddi arbenigol.
Tomos Brogden
Cyn-fyfyriwr
Sicrhaodd Tomos leoliad profiad gwaith cyflogedig gyda SOTIC Ltd, asiantaeth chwaraeon digidol, fel Cynorthwyydd Data Chwaraeon. Yma rhoddodd fewnwelediad mathemategol ac ystadegol i’w gydweithwyr. Roedd hyn yn cynnwys datblygu system raddio newydd ar gyfer y World Sailing Organisation, yn ogystal â chanfod ystadegau i’w cynnwys ar wefan CPD Aberdeen.
‘Cefais brofiad defnyddiol gyda My SQL a thaenlenni mewn senarios cymhwysol, yn ogystal ag ennill dealltwriaeth bellach o fathau penodol o ddata ym maes chwaraeon a sut y gellir eu defnyddio i arddangos ystadegau,’ ychwanegodd Tomos.
‘Cyflawnodd Tomos ei ddyletswydd gan ddangos gallu arbennig, awydd i ddysgu a meddwl chwim iawn,’ meddai cynrychiolydd yn SOTIC. ‘Mae gallu Tomos i ymdrin yn fanwl â thasgau wedi creu argraff fawr arnom. Mae ganddo wybodaeth wych am chwaraeon ac aeth i’r afael â phob tasg, gan fynd y tu hwnt i’r disgwyl gyda phob un ohonynt.'
‘Rwy’n llawer mwy hyderus wrth ymgeisio am y mathau hyn o rolau, yn ogystal â chael mwy o brofiad i fynd amdani wrth ymgeisio am swyddi arbenigol,’ meddai Tomos.
‘Ar hyn o bryd mae gen i ambell swydd wrth i mi chwilio am rywbeth mwy cadarn. Ar ôl chwilio ar fyrddau swyddi, cefais fy swydd gyntaf, fel ystadegydd pêl-droed ar gyfer gemau bêl-droed yn fy ardal leol. Rwyf hefyd newydd ddechrau yn fy rôl fel technegydd dan hyfforddiant. Trwy rwydweithio lleol da llwyddais i gael cyfweliad a chefais y swydd yn y fan a’r lle, ac i'r Rhaglen GROW mae’r diolch am hynny, oherwydd y sgiliau rhwydweithio a ddysgais ar hyd y ffordd.’
Os hoffech gael gwybod mwy am y cymorth a gynigir gan GROW a'r lleoliadau profiad gwaith sydd ar gael, anfonwch e-bost i graduates-wales@open.ac.uk
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Ddydd Llun 22 Mai, traddododd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, Louise Casella, brif araith mewn digwyddiad arbennig i drafod dyfodol addysg uwch yng Nghymru.
Yma, mae’r raddedig Bethany Turner yn sôn am y modd y daeth o hyd i swydd ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen gyflogadwyedd.
Rhodri Davies
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891