You are here

  1. Hafan
  2. Helen yn disgrifio sut cafodd ei gradd tra’n byw gyda nam ar ei golwg

Helen yn disgrifio sut cafodd ei gradd tra’n byw gyda nam ar ei golwg

Helen Russell gyda'i theulu o amgylch arwydd y Brifysgol Agored

Mae Helen Russell yn dod o Abertawe. Mae’n gweithio yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ac yn 2022, graddiodd gyda BSc (Anrh.) mewn Troseddeg a Seicoleg gyda’r Brifysgol Agored.  

Mae cerddoriaeth yn rhan fawr o’i bywyd. Mae’n mwynhau canu gwlad yn bennaf, ac yn chwarae’r gitâr bas. Mae hefyd yn hoff iawn o deithio, ac yn nodi mai UDA a Chanada yw rhai o’r lleoedd gorau y mae hi wedi ymweld â nhw. Mae’n byw gyda nam ar ei golwg ac yn ystyried ei hun yn anabl.  

Dechreuodd Helen astudio gyda’r Brifysgol Agored yn 2015. Dewisodd y radd hon drwy ei gwaith mewn llysoedd cyfreithiol, a chafodd ei hannog gan ddau gydweithiwr i astudio gydag OU.  

‘Ro’n i’n chwilio am atebion a dealltwriaeth well o natur ddynol, personoliaeth a chysylltiadau â throseddeg,’ meddai Helen. ‘Mae’r cwrs wedi fy nysgu i fod yn fwy chwilfrydig, peidio â chymryd pethau ar sail gair am air, ac i beidio beirniadu.’

Dod o hyd i’r dewrder

‘Rhoddodd yr OU lawer iawn o sicrwydd drwyddi draw, boed hynny’n gostegu f’ofnau am yr arholiad, addasiadau rhesymol neu’n cynnig rhagor o amser gyda thiwtoriaid pe byddai angen.

Er y byddai Helen yn argymell yr OU i unrhyw un sydd am astudio gradd, mae’n cyfaddef ei bod hi’n poeni i ddechrau am gofrestru ar gyfer ei chwrs.  

‘Ro’n i’n ceisio ffonio am oes cyn i mi deimlo’n ddigon dewr i ffonio go iawn,’ eglurodd. ‘Doeddwn i ddim yn meddwl y gallai ‘pobl fel fi’ astudio i lefel radd, ac ro’n i’n nodi pob esgus dros beidio â bwrw ymlaen.   

‘Rhoddodd yr OU lawer iawn o sicrwydd drwyddi draw, boed hynny’n gostegu f’ofnau am yr arholiad, addasiadau rhesymol neu’n cynnig rhagor o amser gyda thiwtoriaid pe byddai angen.’   

Fel unigolyn anabl, roedd Helen yn gymwys ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA). Drwy hyn, cafodd liniadur gyda thestun mawr (ZoomText), a oedd yn ei galluogi i chwyddo’r testun ar y sgrîn, ac yn darllen y testun allan yn uchel. Gan fod angen ffont maint 36, cafodd hefyd gyflenwad o bapur ac inc argraffu, gan fod angen iddi argraffu’n aml i adolygu ei gwaith.  

‘Roedd yr OU yn gefnogol o’r cychwyn cyntaf,’ dywedodd. ‘Cefais gymorth drwy’r cais am DSA. Hefyd, gwnaethant roi gwybod i bob tiwtor ymlaen llaw a rhoi arweiniad manwl.’   

‘Siaradais dros y ffôn i ddechrau, cyn rhoi tystiolaeth feddygol, fy rhif cofrestru fel unigolyn dall a llythyr gan y meddyg teulu. Roedd y broses yn hollol ddi-ffwdan.’

Dathlu ar lannau’r afon Clyde

Yn ogystal â’r gefnogaeth a dderbyniodd i astudio ochr yn ochr â’i hanabledd, sylweddolodd Helen fod hyblygrwydd yr OU o ran y ffordd roedd myfyrwyr yn astudio yn gweddu i’w hamgylchiadau. Gan fyfyrio ar ei chwe blynedd yn astudio gydag OU, does dim dwywaith y byddai’n gwneud yr un penderfyniad ac yn mynd ati eto!

Mae’r OU yno i’ch helpu chi. Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’ch anghenion, felly bydd angen i chi egluro. Defnyddiwch yr addasiadau rhesymol, maen nhw yno i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich potensial.

Cyngor Helen i fyfyrwyr anabl yw bod yn agored o’r cychwyn cyntaf.   

‘Siaradwch â thîm Cymorth i Fyfyrwyr OU a rhowch wybod yn union pa gymorth fyddai ei angen arnoch,’ meddai. ‘Siaradwch ag eraill sydd wedi bod drwy’r broses. Sicrhewch fod eich holl dystiolaeth yn barod er mwyn gwneud cais am DSA.   

‘Mae’r OU yno i’ch helpu chi. Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’ch anghenion, felly bydd angen i chi egluro. Defnyddiwch yr addasiadau rhesymol, maen nhw yno i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich potensial.  

‘Ymunwch â Grwpiau Myfyrwyr Anabl. Maen nhw’n llawn gwybodaeth ac anogaeth. Mae elfennau positif iawn i OU, mae’n gymuned yn llawn pobl anhygoel o bob math o gefndiroedd.’   

Er bod Helen yn dod o dde-orllewin Cymru, penderfynodd raddio mewn seremoni OU yn yr Alban fel bod modd i’w theulu ymuno â hi.   

‘Teithiais i Glasgow oherwydd roedd fy wyrion ac wyresau eisiau gweld Nana’n graddio,’ dywedodd. ‘Roedd yr ysgol wedi synnu pan glywson nhw’r rheswm dros y cais am ‘absenoldeb arbennig’ fel y gallant ddod i’r seremoni. Dyna oedd diwrnod balchaf fy mywyd o bell ffordd.’  

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891