England.  Change location

English  

TEF 2023 Gold Award

Cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein

Rydym yn arbenigo mewn cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein - rydym wedi helpu dros 2 filiwn o bobl i gyflawni hyd at eu gallu.

Astudiwch gyda ni i elwa ar addysgu arloesol a chymwysterau sy'n cael eu parchu gan gyflogwyr; pob un â'r hyblygrwydd a'r gwerth nad yw bob amser ar gael mewn prifysgolion sy'n cynnig dysgu mewn ystafell ddosbarth.

Gofynnwch am brosbectws

Beth yw dysgu o bell?

Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o bell, ond beth mae hynny'n ei olygu? Darganfyddwch sut, beth, pryd a ble y byddwch chi'n astudio gyda'n cyfres o ganllawiau byr ar fod yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored.

A allaf ei wneud?

Nid ydym yn credu mewn rhwystrau, felly os ydych yn barod i weithio'n galed, byddwn yn eich helpu i lwyddo. Os ydych yn ansicr ynghylch y lle gorau i ddechrau, gallwn roi helpu i chi efo hynny hefyd.

Sut i wneud cais

Dewiswch y cwrs iawn, dewch o hyd i'r opsiwn cyllido gorau a gwnewch gais ar yr amser iawn. Mae'r canllaw hwn yn eich arwain trwy'r broses o ddod yn fyfyriwr y Brifysgol Agored o'r dechrau i'r diwedd.

Ffioedd a chyllid

Os ydych yn fyfyriwr newydd, gallech gael hyd at £4,500 o gyllid tuag at gostau byw wrth astudio ein cyrsiau rhan amser. Darganfyddwch eich holl opsiynau cyllid heddiw.

Bod ar y blaen gyda throsglwyddo credyd

Gall astudio blaenorol gyfrif tuag at gymhwyster - hyd yn oed os na wnaethoch gwblhau'r cwrs. Mae 20% o raddedigion y Brifysgol Agored yn defnyddio Trosglwyddo Credyd i arbed amser ac arian wrth astudio.

Eisoes yn meddu ar radd?

Os ydych chi'n byw yng Nghymru efallai y byddwch chi'n dal i fod yn gymwys i gael benthyciad myfyriwr, hyd yn oed os oes gennych chi radd o brifysgol arall eisoes. Gweld a yw eich cymhwyster yn gymwys.

Cewch eich ysbrydoli

Mae miloedd o fyfyrwyr o bob cefndir yn cofrestru gyda'r Brifysgol Agored bob blwyddyn. Darganfyddwch sut beth yw cymryd y cam hwnnw sy'n newid bywyd.

TEF 2023 Gold Award