Skip to content

Toggle service links

You are here

  1. Hafan
  2. Newyddion

Newyddion

OU Students graduating

Y Brifysgol Agored yng Nghymru’n ymateb i gyhoeddiad Adolygiad Diamond

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru’n croesawu argymhellion yn yr adroddiad yn fawr yn ymwneud â chyllid rhan-amser a chymorth i fyfyrwyr rhan-amser. 

20 Medi 2017
Artists impression of Prixoma B

Academydd o'r Brifysgol Agored ymhlith tîm o seryddwyr i ddarganfod planed sy'n debyg i'r Ddaear

Mae tîm rhyngwladol o seryddwyr wedi canfod planed sy’n cylchdroi o amgylch ein seren agosaf, Proxima Centauri. 

20 Medi 2017
Rob Humphreys, Director Open University in Wales

OU and Coleg Cymraeg celebrate partnership at Eisteddfod

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn falch iawn o gael ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y Maes yr wythnos hon i ddathlu cynlluniau pellach i ddatblygu ein partneriaeth.

20 Medi 2017

Porth Yr Iaith Gymraeg a diwylliant Y Brifysgol Agored yn cael lansiad Harvard arbennig

Bu Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Rob Humphreys, ym Mhrifysgol Harvard yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru). Fel rhan o'r digwyddiad lansiodd Mr Humphreys ‘Hafan’, porth rhyngweithiol newydd ar-lein sy'n arddangos diwylliant a phobl amrywiol Cymru.

20 Medi 2017

Myfyriwr Y Brifysgol Agored yn ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion yng Nghymru

Enillodd James Harris, un o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored, wobr Dysgwr y Flwyddyn i Oedolion yn seremoni wobrwyo Inspire! yng Nghaerdydd ar 22 Mai.

Treuliodd James o Ferthyr Tudful, hanner ei fywyd fel oedolyn yn y carchar ar ôl iddo gael dwy ddedfryd yn 2008 a chafodd ei garcharu am 76 mis. Ond yn lle anobeithio'n llwyr, penderfynodd James - a oedd ond yn 23 pan aeth i'r carchar gyntaf - newid ei fywyd er gwell a rhoi o'i amser i ddysgu sgiliau newydd.

20 Medi 2017

Gwyddonydd o'r Brifysgol Agored yn dod â thechnoleg Rosetta i'r Senedd

Roedd Dr Geraint Morgan o'r Brifysgol Agored yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 24 Mai i gymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a'r Cynulliad.

Wedi'i drefnu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, ar ran ac mewn cydweithrediad â'r gymuned gwyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru, thema'r digwyddiad eleni oedd Gwyddoniaeth Planedol a'r Gofod.

20 Medi 2017

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn derbyn y Goron Driphlyg am ddysgu yn y gweithle

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi derbyn tair gwobr Ansawdd TUC Cymru am y dysgu y mae'n ei ddarparu mewn gweithleoedd ledled Cymru.

20 Medi 2017

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ethol Cymrodyr o'r Brifysgol Agored

Cafodd yr Athro Trevor Herbert, Athro Emeritws Cerddoriaeth yn y Brifysgol Agored, a Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Nhw yw'r cyntaf o'r Brifysgol Agored i gael y statws hwn.

20 Medi 2017

Darganfod Cymru a’r Gymraeg gyda’r Brifysgol Agored

Mae’r Brifysgol Agored wedi lansio cwrs newydd a fydd yn rhoi dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru i ddysgwyr ac yn eu helpu nhw i ddysgu sgiliau iaith Gymraeg sylfaenol.  Cwrs byr newydd ar-lein yw ‘Darganfod Cymru a’r Gymraeg’, cynhyrchwyd y cwrs gan yr adran ieithoedd a’i ddylunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Gymru a dysgu ychydig o Gymraeg.

20 Medi 2017

Rhaid ystyried dirywiad yn niferoedd myfyrwyr rhan amser yn Lloegr fel rhybudd i Gymru

Gydag etholiadau'r Cynulliad ar y gorwel, mae'r Brifysgol Agored yn annog gwleidyddion Cymru i fynd i'r afael â'r dirywiad yn niferoedd y myfyrwyr rhan amser yng Nghymru, ac osgoi gwneud yr un camgymeriadau â llywodraeth Lloegr.

Er gwaethaf cynnig buddiannau i unigolion, busnesau ac economi Cymru, bu gostyngiad o 11 y cant yn niferoedd myfyrwyr rhan amser yng Nghymru ers 2009/2010 a chynigir llai o gyrsiau.

20 Medi 2017

Page 19 of 19

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Rheolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891