Astudiaethau Rhyngwladol
P'un a ydych yn awyddus i gael dealltwriaeth well o'r byd newidiol neu eisiau datblygu sgiliau dadansoddi a gwybodaeth am systemau byd-eang, mae gennym gwrs astudiaethau rhyngwladol i chi.
Pam astudio Astudiaethau Rhyngwladol gyda'r Brifysgol Agored?
Mae'r tîm Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol yn y Brifysgol Agored yn ymchwilwyr gweithredol, yn cyhoeddi gwaith gwreiddiol ar bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth, mudo, a datblygiad. Mae'r ymchwil hwn yn dylanwadu'n drwm ar yr addysgu a'r deunyddiau ar gyfer ein modiwlau a chymwysterau.
Mae astudio astudiaethau rhyngwladol gyda ni yn cynnig:
- Y cyfle i arbenigo mewn gwleidyddiaeth, hanes neu'r amgylchedd fel un maes allweddol i astudiaethau rhyngwladol.
- Y cyfle i ymuno â'r gyfadran fwyaf a'r fwyaf amrywiol yn y Brifysgol Agored, gyda rhyw 50,000 o fyfyrwyr ar gyrsiau'r celfyddydau a gwyddorau cymdeithasol.
- Astudiaeth hyblyg sy'n cyd-fynd â'ch gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Gyrfaoedd mewn Astudiaethau Rhyngwladol
Mae gradd astudiaethau rhyngwladol yn gymwys i ystod eang o broffesiynau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys asiantaethau rhyngwladol, cyrff llywodraethol a busnesau. Bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi eich gallu i ddadansoddi problemau sy'n ymwneud ag ystod o faterion rhyngwladol, gan gynnwys cydweithio a gwrthdaro; gwahaniaeth diwylliannol; ac economeg ryngwladol.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn astudiaethau rhyngwladol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- swyddog ymchwil cymdeithasol y llywodraeth
- diplomydd
- swyddog elusen
- cynorthwyydd gwleidydd.