England.  Change location

Bioleg

Dysgwch fwy am y byd biolegol rhyfeddol sydd o'ch cwmpas.

Mae'r Brifysgol Agored yn darparu ystod o fodiwlau a chymwysterau bioleg, p'un ydych yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth o bwnc, neu ddatblygu a newid eich gyrfa.

Pam astudio Bioleg gyda'r Brifysgol Agored?

Astudiwch fioleg gyda ni, a byddwch yn:

  • Archwilio a datblygu eich gwybodaeth o ystod eang o bynciau a chymwysiadau bioleg gan ddatblygu eich sgiliau gwyddonol.
  • Ymgymryd ag ystod o ymchwiliadau gartref a gwaith maes, yn ogystal ag arbrofion rhithwir drwy ein OpenScience Laboratory hynod lwyddiannus.
  • Dylunio ac ymgymryd â'ch prosiect ymchwil bach eich hun.
  • Cael cyfleoedd i ddatblygu gwaith maes a sgiliau ymarferol ymhellach drwy ysgolion preswyl byr, opsiynol.
  • Dod yn unigolyn graddedig hyblyg gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n hynod werthfawr mewn marchnadoedd swyddi gwyddonol ac anwyddonol.

Gyrfaoedd mewn Bioleg

Astudiwch Fioleg gyda'r Brifysgol Agored a byddwch yn datblygu'r sgiliau datrys problemau, dadansoddi, ymchwilio a chyfathrebu y mae nifer o gyflogwyr yn gofyn amdanynt. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn nifer o wahanol feysydd a meysydd gwaith.

Gall ein hystod o gyrsiau mewn Bioleg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys:

  • addysgu
  • ymchwil neu astudiaeth ôl-raddedig
  • meysydd milfeddygol, amaethyddol a meddygol
  • peirianneg biodechnoleg a biofeddygol
  • rheolaeth a chadwraeth amgylcheddol
  • adrannau llywodraethol, sefydliadau anllywodraethol (NGO) ac elusennau.

Archwilio ein cyrsiau Bioleg