England.  Change location

Busnes a Rheolaeth

P'un a ydych yn ceisio camu i'r byd busnes neu ddatblygu eich gyrfa, mae gan ein cyrsiau busnes a rheolaeth lawer i'w gynnig i chi.

Pam astudio Busnes a Rheolaeth gyda'r Brifysgol Agored?

Mae Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored wedi bod yn cyflwyno addysg busnes a rheolaeth drawsffurfiol o ansawdd uchel ers dros 30 o flynyddoedd. Mae ein haddysg o ansawdd yn dweud cyfrolau ac rydym yn falch o fod yn rhan o grŵp arbennig o'r 1% o ysgolion busnes gorau yn y bydd sydd â thri achrediad.

Manteision astudio busnes a rheolaeth gyda ni:

  • Gallwch arbenigo mewn cyfrifeg, economeg, arloesedd a menter, arferion arweinyddiaeth neu farchnata.
  • Mae ein gradd cyfrifiadura a TG a busnes yn bodloni gofynion achredu'r BCS, y Sefydliad TG Siartredig.
  • Datgloi gyrfaoedd mewn busnes a rheolaeth.

Gan ei bod yn ofynnol i sefydliadau arloesi i fodloni heriau ansicrwydd economaidd a chystadleuaeth fyd-eang, maent yn chwilio am reolwyr sydd â sgiliau addasadwy i'w helpu nhw i lwyddo. Mae sylfaen dda mewn ymwybyddiaeth fasnachol a'r sgiliau arweinyddiaeth y mae cymwysterau busnes a rheolaeth yn eu datblygu yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i gyflogwyr.

Gyrfaoedd mewn Busnes a Rheolaeth

Gall ein hystod o gyrsiau mewn busnes eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • rheolwr uwch neu ganol ar draws bob sector
  • Rheolwr Datblygu busnes
  • entrepreneur neu Berchennog Busnes
  • Ymgynghorydd rheoli
  • Dadansoddwr busnes.

Archwilio ein cyrsiau Busnes a Rheolaeth