Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Mae diwylliant dynol, yn ei holl amrywiaeth, yn cynnig posibilrwydd astudio cyfoethog. Ar ein cyrsiau yn y celfyddydau a'r dyniaethau, gallwch archwilio unrhyw beth o hanes celf i gerddoriaeth, neu ysgrifennu creadigol i athroniaeth.
Pam astudio'r Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored?
Gyda chymhwyster yn y celfyddydau a'r dyniaethau o'r Brifysgol Agored, gallwch astudio ystod eang o bynciau, ac ymgysylltu gyda myfyrwyr eraill o bob cwr o'r byd. Bydd gennych gyfle i arbenigo mewn un neu ddwy ddisgyblaeth i gyd-fynd â'ch diddordebau neu anghenion.
Ochr yn ochr â datblygu sgiliau allweddol, trosglwyddadwy, gall y Brifysgol Agored gynnig y canlynol i chi:
- Modiwlau israddedig sy'n seiliedig ar ein hymchwil byd-eang ac wedi'u datblygu o ganlyniad iddo.
- Ystod eang a chyffrous o bynciau a themâu mewn meysydd pwnc penodol, gan roi persbectifau newydd i chi ar ddiwylliant, cymdeithas a dynoliaeth.
- Y cyfle i ymuno â'r gyfadran fwyaf a'r fwyaf amrywiol yn y Brifysgol Agored, gyda rhyw 50,000 o fyfyrwyr ar gyrsiau'r celfyddydau a gwyddorau cymdeithasol.
Gyrfaoedd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Bydd cymhwyster yn y celfyddydau a'r dyniaethau yn eich helpu chi i fireinio eich sgiliau TG, ysgrifennu, a'ch gallu i feddwl yn annibynnol. Ym marchnad swyddi gystadleuol heddiw, mae galw mawr am y sgiliau hyn - p'un a ydych eisoes mewn gwaith, yn gwirfoddoli neu'n newid gyrfa.
Gallai'r celfyddydau a'r dyniaethau arwain at yrfa:
- yn y byd addysg
- yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol
- meysydd milfeddygol, amaethyddol a meddygol
- mewn gwaith cyfreithiol
- mewn gwleidyddiaeth/llywodraeth leol.