England.  Change location

Cemeg

P'un ydych eisiau dysgu mwy amdanoch eich hun a'r byd o'ch cwmpas, ennill cipolwg ar bwnc rhyfeddol, neu'n awyddus i ddatblygu'ch gyrfa - mae astudio cwrs cemeg gyda'r Brifysgol Agored yn ddewis doeth.

Pam astudio Cemeg gyda'r Brifysgol Agored?

Gallwn ni eich helpu chi i gyflawni eich nodau dysgu a - fel arweinwyr blaenllaw mewn addysg ac ymchwil STEM cynhwysol, arloesol a dylanwadol - rydym yn falch o fod wedi helpu mwy na 2 filiwn o bobl i gael mynediad at addysg uwch ar draws y byd. Byddwch yn astudio gydag un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf yn y sector hwn.

Astudiwch gemeg gyda ni, a byddwch yn:

  • Datblygu sgiliau ymchwilio a labordy drwy ymchwiliadau ymarferol a ddarperir drwy ein OpenScience Laboratory hynod lwyddiannus.
  • Cael cyfle i ymgymryd â gwaith ymarferol yn y labordy mewn ysgolion preswyl byr, opsiynol.
  • Archwilio a datblygu eich gwybodaeth o ystod eang o bynciau cemeg gan ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o'r dull gwyddonol.

Gyrfaoedd mewn Cemeg

Gyda gradd mewn cemeg, byddwch wedi'ch paratoi yn dda ar gyfer swyddi gwyddonol ac anwyddonol. Mae'r agwedd resymegol sydd ei hangen ar gyfer astudiaeth wyddonol yn berthnasol i ystod eang o gyflogaeth yn y byd ariannol, busnes ac yn y sector cyhoeddus, felly mae galw am raddedigion.

Gall ein hystod o gyrsiau mewn cemeg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • nanodechnolegydd
  • gwyddonydd fforensig
  • peiriannydd cemegol
  • gwyddonydd ymchwil.

Archwilio ein cyrsiau Cemeg