Chwaraeon a Ffitrwydd
Os hoffech ddod yn arweinydd chwaraeon neu ffitrwydd, neu'n arweinydd cyfredol, bydd cyrsiau'r Brifysgol Agored yn helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o wyddor chwaraeon, hyfforddiant, ac arweinyddiaeth.
Pam astudio Chwaraeon a Ffitrwydd gyda'r Brifysgol Agored?
Drwy ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd, byddwch yn astudio anghenion corfforol a seicolegol dynion a merched yn y byd chwaraeon a chleientiaid ymarfer corff. Byddwch yn defnyddio astudiaethau achos clyweledol ac yn myfyrio ar sefyllfaoedd posibl neu wirioneddol yn eich gwaith neu ymarfer eich hun.
Dyma fanteision astudio cymhwyster chwaraeon a ffitrwydd gyda ni:
- Cydnabyddir ein cymwysterau gan Gofrestr y Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol a gallwch ennill pwyntiau datblygiad proffesiynol parhaus drwy gwblhau ein modiwlau.
- Rydym yn atgyfnerthu ein dysg drwy dechnoleg arloesol.
- Gellir strwythuro ein hastudiaeth hyblyg o gwmpas eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Gyrfaoedd mewn Chwaraeon a Ffitrwydd
Gall cymwysterau chwaraeon a ffitrwydd y Brifysgol Agored atgyfnerthu eich rhagolygon mewn hyfforddi chwaraeon, hyfforddiant ffitrwydd neu arwain grwpiau hamdden. Byddant hefyd yn werthfawr os ydych yn hunangyflogedig yn y sector chwaraeon a ffitrwydd, yn gweithio mewn clybiau chwaraeon neu'n dymuno datblygu eich gyrfa mewn rheolaeth chwaraeon neu ddatblygiad chwaraeon.
Gall ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- hyfforddwr chwaraeon
- hyfforddwr ffitrwydd
- hyfforddwr personol
- athro/awes addysg gorfforol.