Cwnsela
Eisiau dechrau gyrfa mewn cwnsela? Rydym yn cynnig gradd anrhydedd seicoleg a chwnsela sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Yn ogystal, rydym yn cynnig gradd sylfaen a diploma sydd wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Chorff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi (CPCAB), a all fod o ddiddordeb os hoffech ddod yn gwnselydd proffesiynol.
Pam astudio Cwnsela gyda'r Brifysgol Agored?
- Mae ein Gradd Sylfaen a Diploma Addysg Uwch mewn Cwnsela wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Chorff Dyfarnu Canolog Cwnsela a Seicotherapi (CPCAB).
- Mae ein BSc (Anrhydedd) Seicoleg a Chwnsela yn un o nifer o'n graddau sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.
- Datblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol mewn cwnsela mewn amgylchoedd dysgu ar-lein ac oddi ar-lein.
- Archwilio ystod o ddulliau gweithredu cwnsela a chymhwyso'ch gwybodaeth i amrywiaeth o anghenion cleientiaid, megis profedigaeth a gorbryder.
Gyrfaoedd mewn Cwnsela
Mae gwerth therapiwtig cwnsela yn cael ei gydnabod yn gynyddol, gydag ymarferwyr yn cael eu cyflogi mewn practisau preifat ac mewn lleoliadau megis gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau cynghori a llinellau cymorth.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn cwnsela eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- cwnselydd neu seicolegydd cwnsela
- seicotherapydd
- gweithiwr gwasanaethau ieuenctid a gweithiwr cymdeithasol.