Gwyddorau Cymdeithasol
Mae miloedd o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau gwyddor cymdeithasol gyda ni bob blwyddyn, yn ennill cipolwg rhyfeddol ar fywyd bob dydd. Bydd astudio sut mae pobl, grwpiau a sefydliadau yn ymarfer pŵer ac yn ymateb i rymoedd gwleidyddol ac economaidd yn eich helpu chi i wneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd yn ein byd hynod newidiol.
Pam astudio Gwyddorau Cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored?
Mae ein hymchwil blaenllaw yn sail i ystod o gymwysterau israddedig arloesol.
Dyma fanteision astudio gwyddor cymdeithasol gyda ni:
- Gallwch arbenigo mewn troseddeg, economeg, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg, astudiaethau crefyddol neu gymdeithaseg.
- Byddwch yn dysgu gyda deunyddiau deallusol manwl gywir, creadigol, o'r radd flaenaf.
- Mae ein haddysgu hynod lwyddiannus yn canolbwyntio ar faterion polisi allweddol, yn y DU ac yn rhyngwladol.
- Mae ein modiwlau yn ddifyr ac yn eich cyflwyno chi i ymchwil a syniadau o'r radd flaenaf.
Gyrfaoedd mewn Gwyddorau Cymdeithasol
Mae cymwysterau gwyddor cymdeithasol yn darparu sylfaen ragorol i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae dewisiadau gyrfa poblogaidd yn cynnwys busnes, gwleidyddiaeth, adnoddau dynol, y gwasanaethau sifil a diplomyddol a'r sector cyhoeddus.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn gwyddorau cymdeithasol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- gweithiwr cymdeithasol
- gwas sifil
- gweithiwr elusen
- rheolwr busnes.