Hanes
Mae deall ein gorffennol yn hanfodol i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas ac i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol. P'un a ydych yn awyddus i wella eich dealltwriaeth o'r gorffennol neu atgyfnerthu eich rhagolygon gyrfa, mae gan ein cyrsiau hanes lawer i'w gynnig.
Pam astudio Hanes gyda'r Brifysgol Agored?
Mae haneswyr yn y Brifysgol Agored yn awyddus i rannu eu hangerdd am hanes a'ch ysbrydoli chi i ddysgu am y gorffennol. Maent yn ymroddedig i gyflwyno'r addysg o'r ansawdd orau a deunyddiau asesu sy'n seiliedig ar ymchwil hanesyddol diweddar.
Gall astudio hanes yn y Brifysgol Agored gynnig:
- Cyfle i chi ddewis o ystod o wahanol gyfnodau ac agweddau ar hanes, o'r canoloesol i'r oes fodern.
- Yr hyblygrwydd i gyfuno'ch astudiaeth o hanes gyda gwleidyddiaeth a nifer o bynciau'r celfyddydau a'r dyniaethau.
Gyrfaoedd yn y maes Hanes
Bydd astudio hanes yn rhoi cyfuniad hyblyg o sgiliau i chi, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu. Yn ogystal, byddwch yn mireinio'ch gallu i gydweddu a gwerthuso gwybodaeth. Mae galw mawr am y sgiliau hyn yn y byd y tu hwnt i astudio.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn hanes eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- athro/awes
- curadur amgueddfa
- gweinyddwr y celfyddydau
- rheolwr safle treftadaeth.