England.  Change location

Iechyd a Llesiant

A oes gennych chi ddiddordeb yn y wyddoniaeth sydd wrth wraidd yr hyn sy'n ein gwneud yn iach? A hoffech chi ddatblygu gyrfa mewn lleoliad llesiant neu ofal iechyd? Mae ein cyrsiau iechyd a llesiant yn cynnig cymwysterau amrywiol mewn pwnc sy'n werth chweil yn bersonol. Dewiswch o ystod o raddau, diplomâu a thystysgrifau i ddatgloi cyfleoedd gyrfa yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym.

Pam astudio Iechyd a Llesiant gyda'r Brifysgol Agored?

Ers dros 30 mlynedd rydym wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored yn y maes iechyd a llesiant. Byddwch yn dysgu gyda deunyddiau uchel eu parch a ddefnyddir ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a phroffesiynau. Gyda thros 12,000 o fyfyrwyr llesiant, iechyd a gofal cymdeithasol, byddwch yn astudio gydag un o'r darparwyr addysgol mwyaf o ran maint ac arloesedd yn y sector.

Dyma fanteision astudio iechyd a llesiant gyda ni:

  • Arhoswch yn eich swydd wrth i chi astudio. Gallwch strwythuro ein dysg hyblyg o gwmpas eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i ddarparu rhaglenni dysgu sy'n bodloni eu hanghenion newidiol.
  • Mae gennym gefndir cryf mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol, yn elwa o gyllid gan Gynghorau Ymchwil (ESRC ac AHRC), a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.
  • Rydym yn defnyddio technoleg arloesol, megis realiti estynedig, i atgyfnerthu eich dysg.

Gyrfaoedd mewn Iechyd a Llesiant

Mae astudio am gymhwyster iechyd a llesiant y Brifysgol Agored yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad personol neu wella gyrfa. Rydym yn cynnig rhaglen nyrsio cyn-cofrestru unigryw yn seiliedig ar waith gyda llwybr cymhwyso hyblyg i nyrsio iechyd meddwl, ynghyd ag ystod o fodiwlau a dyfarniadau ar gyfer datblygiad proffesiynol os ydych yn gweithio mewn rôl chwaraeon, llesiant neu ofalu.

Gall ein hystod o gyrsiau iechyd a llesiant eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y meysydd canlynol:

  • chwaraeon a ffitrwydd
  • datblygiad cymunedol
  • addysg iechyd
  • nyrsio iechyd meddwl.

Archwilio cyrsiau Iechyd a Llesiant