England.  Change location

Mathemateg

P'un a ydych yn chwilio am sylfaen gadarn mewn mathemateg ac ystadegau neu eisiau arbenigo mewn agweddau ar fathemateg bur neu gymhwysol, bydd cwrs mathemateg y Brifysgol Agored yn eich helpu chi i sefyll allan. Mae mathemateg yn bwnc ysbrydoledig a phleserus a fydd yn rhoi sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau i chi sy'n cael eu gwerthfawrogi ar draws sectorau gwaith.

Pam astudio Mathemateg gyda'r Brifysgol Agored?

Gydag ymhell dros 15,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn, byddwch yn astudio gyda darparwr mathemateg ac ystadegau ar lefel prifysgol mwyaf Ewrop. Dewiswch o ystod eang o bynciau, gan gynnwys mathemateg bur, mathemateg gymhwysol, addysg fathemateg, ystadegau a ffiseg ddamcaniaethol.

Gyda'r Brifysgol Agored, byddwch yn elwa o:

  • Ddewis o fannau cychwyn i gyd-fynd â'ch gwybodaeth fathemategol gyfredol.
  • Cymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan sefydliadau, megis y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau, y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, a'r Sefydliad Ffiseg.
  • Cyfleoedd i ddatblygu'ch profiad gyda meddalwedd fathemategol ac ystadegol.
  • Cynnwys addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol wedi'i greu gan ein staff hynod lwyddiannus.

Gyrfaoedd mewn Mathemateg

Mae mathemateg ac ystadegau yn chwarae rôl allweddol mewn datblygiadau technolegol sy'n siapio ein cymdeithas. Mae galw mawr am raddedigion mathemateg am eu sgiliau rhesymegol a dadansoddol. Gall cyfleoedd gyrfa mewn mathemateg fod mor eang ac amrywiol â'r pwnc ei hun - o fodelu'r hinsawdd i fancio.

Gall ein cyrsiau mathemateg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • gwyddonydd data
  • dadansoddwr buddsoddiadau
  • athro/awes
  • datblygwr systemau.

Archwilio cyrsiau Mathemateg