England.  Change location

Nyrsio a Gofal Iechyd

Mae'n anodd dychmygu sector mwy dynamig a newidiol na nyrsio a gofal iechyd yn y DU. P'un a ydych yn ceisio ennill lle yn y proffesiwn gofal iechyd, neu'n awyddus i ddatblygu eich gyrfa iechyd neu nyrsio, mae opsiwn i chi yn ein cyrsiau nyrsio a gofal iechyd.

Pam astudio Nyrsio a Gofal Iechyd gyda'r Brifysgol Agored?

Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi bod yn cyflwyno dysg o bell cynaledig, agored ym maes Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a datblygu deunyddiau uchel eu parch er defnydd amlddisgyblaethol ac aml-broffesiynol. Byddwch yn ymuno ag un o'r darparwyr cyfleoedd addysgol a datrysiadau dysgu mwyaf a mwyaf arloesol yn y sector hwn.

Dyma fanteision astudio nyrsio a gofal iechyd gyda ni:

  • Aros yn eich swydd wrth i chi astudio a datblygu yn eich rôl gyfredol.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr, gan gynnwys y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.
  • Fel darparwr hyfforddiant gofal cymdeithasol rhan-amser mwyaf y DU, rydym yn cynnig ystod amrywiol o fodiwlau a chymwysterau ym maes llesiant, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i waith yn seiliedig ar ymarfer.
  • Rhaglen nyrsio unigryw yn seiliedig ar waith ar gyfer datblygiad proffesiynol hyblyg.

Gyrfaoedd mewn Nyrsio a Gofal Iechyd

Mae astudio am gymhwyster y Brifysgol Agored yn un o'r disgyblaethau gofal iechyd yn baratoad delfrydol ar gyfer datblygiad personol neu wella gyrfa. Beth bynnag yw eich nodau gyrfa, gallwn ni eich helpu chi i'w cyflawni.

Gall ein hystod o gyrsiau mewn nyrsio a gofal iechyd eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • nyrs gofrestredig
  • ymarferydd gofal iechyd
  • gweithiwr cymdeithasol
  • cynorthwyydd gofal.

Archwilio cyrsiau Nyrsio a Gofal Iechyd.