Peirianneg
Dechreuwch ar eich taith i ddod yn beiriannydd proffesiynol gyda chwrs peirianneg gyda'r Brifysgol Agored. Wedi'u cydnabod a'u hachredu gan sefydliadau peirianneg proffesiynol, mae ein cyrsiau yn ymdrin ag ystod eang o bynciau peirianneg, megis dylunio peirianneg, peirianneg fecanyddol, electroneg, dylunio a mwy.
Pam astudio Peirianneg gyda'r Brifysgol Agored?
Arbenigwch yn y maes sy'n mynd â'ch bryd chi gyda'n dull gweithredu eang, amlddisgyblaethol i beirianneg. Byddwch yn ymuno â mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn elwa o'n gwaith gyda chyflogwyr a sefydliadau peirianneg proffesiynol i sicrhau bod ein cwricwlwm yn addas at y diben ac yn adlewyrchu arfer gyfredol.
Dyma rai rhesymau i astudio peirianneg gyda'r Brifysgol Agored:
- Bydd eich gradd wedi'i hachredu gan sawl sefydliad peirianneg proffesiynol blaenllaw.
- Byddwch yn mynychu ysgolion preswyl yn para wythnos, yn canolbwyntio ar waith labordy a gwaith maes, lle byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol amhrisiadwy.
- Bydd gennych fynediad at Labordai OpenEngineering sy'n eich caniatáu chi i ddefnyddio cyfarpar o safon gwaith ymchwil, fel y gallwch gasglu a dadansoddi eich data go iawn eich hun.
Gyrfaoedd mewn Peirianneg
Mae galw cynyddol am raddedigion peirianneg medrus a chymwys wedi dod law yn llaw â datblygiadau mewn technolegau newydd. Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU wedi amcangyfrif y gallai'r sector ynni adnewyddadwy ei hun greu 500,000 o swyddi newydd erbyn 2020. Gyda chymaint o gyfleoedd, beth sy'n eich atal chi rhag dechrau eich gyrfa mewn peirianneg?
Gallai'r Brifysgol Agored fod yn fan cychwyn eich gyrfa mewn:
- peirianneg fecanyddol
- rheoli prosiectau
- peirianneg amgylcheddol
- newyddiaduraeth dechnegol a gwaith dyfeisio.