Seicoleg
Eisiau dechrau gyrfa mewn Seicoleg? Diddordeb mewn ehangu eich dealltwriaeth o ymddygiad dynol? Gyda graddau wedi'u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), gallai'r cyrsiau seicoleg yn y Brifysgol Agored fynd â chi yn bell.
Pam astudio Seicoleg gyda'r Brifysgol Agored?
Fel darparwr addysg ar lefel prifysgol mewn Seicoleg mwyaf Ewrop, rydym yn falch o gynhyrchu mwy o raddedigion seicoleg nag unrhyw brifysgol arall yn y DU. Mae ein cynnwys a'n haddysg o ansawdd uchel yn golygu bod ein BSc (Anrh) Seicoleg wedi'i hachredu gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ers dros 20 mlynedd.
Pam ddylech chi astudio seicoleg gyda ni:
- Byddwch yn gymwys am Aelodaeth Siartredig i Raddedigion wedi i chi gwblhau un o'n graddau sydd wedi'u hachredu gan BPS.
- Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys datrys problemau, rhesymu a meddwl yn feirniadol.
- Gallwch gymhwyso'ch dysg wrth ymdrin â phroblemau a sefyllfaoedd y byd go iawn, megis ymchwiliadau troseddol, cydraddoldeb rhywedd a hil, perthnasoedd a therapi.
Gyrfaoedd mewn Seicoleg
P'un a ydych yn penderfynu hyfforddi fel seicolegydd ymarferol yn ddiweddarach, mae astudio seicoleg yn agor cyfleoedd gwaith cyffrous mewn ystod o feysydd proffesiynol. Mae astudio cymhwyster y Brifysgol Agored mewn seicoleg yn baratoad rhagorol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig bellach a dilyniant gyrfa.
Mae seicoleg yn berthnasol i yrfaoedd mewn:
- seicotherapi neu gwnsela
- plismona, gwaith yn y carchar a'r gwasanaeth prawf
- gwasanaethau ieuenctid a gwaith cymdeithasol
- recriwtio, dethol a hyfforddiant.