England.  Change location

Troseddeg

A oes gennych chi ddiddordeb mewn materion trosedd a chyfiawnder pynciol sy'n torri tir newydd ac yn aml yn ddadleuol? P'un a hoffech ddatblygu eich gwybodaeth droseddeg ar gyfer eich gyrfa, neu er eich diddordeb chi, mae gan ein cyrsiau lawer i'w ddatgelu.

Pam astudio Troseddeg gyda'r Brifysgol Agored?

Mae'r cwrs Troseddeg yn y Brifysgol Agored yn cael ei gydnabod yn genedlaethol a rhyngwladol am ei ddull gweithredu unigryw i addysgu ac ymchwil. Mae'n cynnig:

  • Mynediad at ddeunyddiau astudio ysgrifenedig, darlledu a clyweledol uchel eu parch.
  • Yr hyblygrwydd i archwilio pynciau troseddegol o ddiddordeb chi mewn dyfnder.
  • Y dewis i ganolbwyntio ar droseddeg neu gyfuno gyda naill ai'r gyfraith, seicoleg neu wyddor gymdeithasol.

Gyrfaoedd mewn Troseddeg

Bydd astudio am gymhwyster troseddeg y Brifysgol Agored yn eich galluogi chi i ffurfio ac ymchwilio i gwestiynau troseddegol. Byddwch yn dysgu i grynhoi ac egluro gwybodaeth empirig a chanfyddiadau ymchwil. Bydd y rhain yn sgiliau sy'n berthnasol i ystod eang o lwybrau gyrfa y tu hwnt i'r rheiny sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â throseddeg.

Gall ein hystod o gyrsiau mewn troseddeg eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:

  • gweithiwr cyfiawnder troseddol - yn y carchar, gwasanaeth prawf, yr heddlu, gwasanaethau dioddefwyr ac ieuenctid
  • gweithiwr y sector gwirfoddol/trydydd sector
  • gweithiwr i lywodraeth leol
  • ymchwilydd cymdeithasol.

Archwilio ein cyrsiau Troseddeg