Y Blynyddoedd Cynnar
A ydych chi'n gweithio yn y maes plant a phobl ifanc neu a oes gennych ddiddordeb yn y maes hwn? A hoffech chi ddysgu mwy am fywydau a phrofiadau plant ifanc? Gallai cwrs y blynyddoedd cynnar y Brifysgol Agored fod yn ddelfrydol i chi.
Pam astudio'r Blynyddoedd Cynnar gyda'r Brifysgol Agored?
Byddwch yn astudio cyrsiau sydd wedi'u dylunio a'u creu gan ein Hysgol Addysg, Plentyndod, Ieuenctid a Chwaraeon. Mae'r Ysgol yn cynnig cwricwlwm sy'n torri tir newydd, dulliau addysgu ysbrydoledig a difyr, ac yn cefnogi ymchwil sy'n dylanwadu ar arferion, polisïau a dadleuon - yn genedlaethol a rhyngwladol.
Dyma fanteision astudio cymhwyster y blynyddoedd cynnar gyda ni:
- Bydd eich astudiaeth yn berthnasol yn broffesiynol a galwedigaethol ar draws nifer o gyd-destunau.
- Byddwch yn meddu ar y wybodaeth a'r profiad i wneud gwahaniaeth go iawn yn y maes hwn.
- Byddwch yn astudio gyda phrifysgol sydd â 50 mlynedd o brofiad fel arloeswyr cyfiawnder cymdeithasol a newid cymdeithasol.
- Gallwch strwythuro ein hastudiaeth hyblyg o gwmpas eich gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Gall cymhwyster y blynyddoedd cynnar agor drysau i ystod o yrfaoedd, gan gynnwys gofal plant, cwnsela, gwaith y blynyddoedd cynnar, gwaith ieuenctid a chymuned, a datblygu polisïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall ein cyrsiau yn y blynyddoedd cynnar eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- athro/awes
- cwnselydd
- Swyddog Lles Addysg
- gweithiwr cefnogi teuluoedd.