Y Gyfraith
P'un a ydych yn ceisio camu i'r proffesiwn cyfreithiol neu ddatblygu eich gyrfa, mae gan ein cyrsiau'r gyfraith lawer i'w gynnig i chi. Gallwch astudio un o'n Graddau Cymhwyso yn y Gyfraith neu gyfuno eich diddordeb yn y gyfraith gyda throseddeg neu iaith fodern.
Pam astudio'r Gyfraith gyda'r Brifysgol Agored?
Fel arweinydd mewn dysgu hyblyg, mae Ysgol y Gyfraith y Brifysgol Agored yn cynnig addysg gyfreithiol fyd-enwog ac arloesol. Gyda mwy na 60,000 o fyfyrwyr ers 1998, mae ein gradd israddedig yn y gyfraith wedi dod y mwyaf poblogaidd yn y DU.
Dyma fanteision astudio'r gyfraith gyda ni:
- Astudio Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith a gydnabyddir gan y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
- Ennill dealltwriaeth fanwl o 'Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol' sydd eu hangen ar gyfer Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith.
- Ennill profiad ymarferol drwy glinig y gyfraith ar-lein - a dderbyniodd gryn gymeradwyaeth yn y categori 'Best new pro bono activity' yng Ngwobrau LawWorks Pro Bono 2018.
Gyrfaoedd yn y Gyfraith
Mae astudio'r gyfraith yn ysgogol ac yn ased i nifer o yrfaoedd, yn y gyfraith neu feysydd sy'n gysylltiedig â'r gyfraith. Gall ein gradd yn y gyfraith fod y cam academaidd cyntaf yn eich hyfforddiant i ddod yn:
- gyfreithiwr
- bargyfreithiwr
- swyddog gweithredol cyfreithiol
- paragyfreithiwr.