Ysgrifennu Creadigol
P'un a ydych eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu a'ch arferion golygu eich hun ar gyfer eich proffesiwn, neu er eich diddordeb personol, mae gan ein cyrsiau ysgrifennu creadigol lawer i'w gynnig i chi.
Pam astudio Ysgrifennu Creadigol gyda'r Brifysgol Agored?
Ers 2003, mae dros 50,000 o fyfyrwyr wedi cwblhau un o'n modiwlau ysgrifennu creadigol hynod boblogaidd.
Dyma fanteision astudio ysgrifennu creadigol gyda ni:
- Datblygu eich sgiliau ysgrifennu mewn sawl genre, gan gynnwys ffuglen, barddoniaeth, ysgrifennu bywyd ac ysgrifennu sgriptiau.
- Eich cyflwyno chi i'r byd golygu a gofynion cyflwyno llawysgrifau yn broffesiynol.
- Fforymau grŵp tiwtor ar-lein i'ch galluogi chi i fod yn rhan o gymuned ysgrifennu ryngweithiol.
- Caiff llyfrau gwaith modiwlau eu canmol yn eang a'u defnyddio gan brifysgolion eraill, ac maent wedi denu gwerthiannau ledled y byd.
Gyrfaoedd mewn Ysgrifennu Creadigol
Bydd astudio ysgrifennu creadigol yn rhoi cyfuniad hyblyg o sgiliau i chi a all arwain at ystod eang o wahanol alwedigaethau. Byddwch yn dysgu i werthuso a chydweddu gwybodaeth wrth strwythuro dadl yn ogystal â chaffael sgiliau meddwl yn greadigol a beirniadol, y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle.
Gall ein hystod o gyrsiau mewn ysgrifennu creadigol eich helpu chi i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel:
- ysgrifennwr
- ysgrifennwr copi
- newyddiadurwr
- athro/awes.