England.  Change location

Ystadegau

Mae ystadegau yn ymwneud ag ymchwilio a datrys problemau - sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr ar draws sectorau gwaith. Os hoffech ddatblygu sylfaen gadarn yng nghysyniadau sylfaenol y maes ystadegau neu wella eich gyrfa, neu dyfu eich diddordebau personol, dewiswch gwrs ystadegau yn y Brifysgol Agored.

Pam astudio Ystadegau gyda'r Brifysgol Agored?

Byddwch yn elwa o gyrsiau ystadegau sydd wedi'u seilio ar ein gwaith ymchwil blaenllaw ac wedi'u datblygu ganddo. Astudiwch ochr yn ochr â mwy na 15,000 o fyfyrwyr mathemateg ac ystadegau ac enillwch:

  • Gymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan sefydliadau, megis y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau a'r Gymdeithas Ystadegol Frenhinol.
  • Ymarfer amhrisiadwy yn cynnal a chyfathrebu ymchwiliadau ystadegol.
  • Y gallu i ddehongli canlyniadau mathemategol a dadansoddiad ystadegol yn nhermau'r byd go iawn.
  • Cyfleoedd i ddatblygu'ch profiad gyda meddalwedd fathemategol ac ystadegol.

Gyrfaoedd mewn Ystadegau

Ystyrir yn eang bod gradd ystadegau yn arbennig yn atgyfnerthu'r sgiliau trosglwyddadwy canlynol: gweithio gyda chysyniadau haniaethol; meddwl yn rhesymegol; dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau; defnyddio meddalwedd broffesiynol berthnasol; a mwy.

Gallai cymhwyster ystadegau helpu i ddechrau eich gyrfa mewn:

  • economeg
  • gwyddor data
  • newyddiaduraeth a darlledu
  • dadansoddi meintiol/dadansoddi risgiau.

Archwilio cyrsiau Ystadegau