Mae’r Brifysgol Agored yn bwriadu cynnal cynhadledd ar-lein rad ac am ddim i bawb sydd â diddordeb yn y sector addysg, o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg bellach, yn unrhyw le yn y DU.
Bydd y gynhadledd ‘Esblygiadau mewn Addysg’ yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol, paneli a sgyrsiau, a bydd yn ystyried y modd y mae’r Brifysgol Agored yn gweithio ledled y DU gydag ymarferwyr mewn amrywiaeth eang o leoliadau addysgol.
Hefyd, bydd y gynhadledd ar-lein hon yn cynnig cyfle i gyfarfod â chydweithwyr addysg ledled y DU, yn ogystal â dod o hyd i adnoddau newydd, adeiladu rhwydweithiau a rhannu profiadau.
Bydd y gynhadledd yn cael ei hollti’n ddwy thema gyffredinol, sef esblygu o ran addysgeg ac esblygu o ran cydweithredu, fel y bydd modd inni archwilio amrywiaeth eang o bynciau. Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan staff academaidd a staff ymgysylltu allanol y Brifysgol Agored a byddant yn trafod themâu a phynciau mewn modd agored, arloesol a hynod ryngweithiol.
Bydd dysgu proffesiynol y cyfranogwyr yn cael ei gydnabod ar ffurf bathodyn digidol.
Sylwch fod y digwyddiad hwn bellach yn llawn, ond gallwch ymuno â'r rhestr aros trwy dudalen Eventbrite ar gyfer y Gynhadledd Addysg.
Gellir mynychu’r gynhadledd hon yn rhad ac am ddim, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I sicrhau eich lle, cofrestrwch cyn gynted ag y bo modd, erbyn dydd Iau 28 Mawrth 2024.
Gellir dewis pa sesiynau i’w mynychu. Y nod yw y bydd modd i’r mynychwyr fynychu’r sesiynau/diwrnodau sy’n gweddu orau iddynt. Byddwn yn anfon y rhaglen maes o law.
.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw