Ydych chi'n fyfyriwr neu'n athro a hoffai gael gwybod mwy am sut mae Rhwydwaith Seren yn helpu myfyrwyr chweched dosbarth mwyaf disglair Cymru i gyflawni hyd at eu gallu academaidd?
Cynhelir cynhadledd 2 ddiwrnod ar 6ed - 7fed Rhagfyr, lle gallwch ddarganfod sut y gall y Brifysgol Agored yng Nghymru eich helpu i gyrraedd y brifysgol trwy ein rhaglen Seren i fyfyrwyr.
Gall astudio modiwl lefel prifysgol ochr yn ochr â'ch astudiaethau UG neu U2 helpu i ehangu eich gwybodaeth academaidd, pontio'r bwlch rhwng yr ysgol a'r brifysgol a gwella eich datganiad personol ar gyfer y cais UCAS.
Disgwylir y bydd yna tua 1,200 o fyfyrwyr yn mynychu'r gynhadledd, i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ewch i: https://serennetwork.blog.gov.wales/
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw