Ar nos Lun, 8 Mai 2017 bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn cynnal 'Siarad yn Broffesiynol' am yr ail flwyddyn yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Yn dilyn noson lwyddiannus y llynedd gyda'r Athrawon John Furlong a Graham Donaldson, rydym wedi gwahodd pedwar comisiynydd Cymru i siarad am ddyfodol addysg yng Nghymru a'r rhan y gallant ei chwarae wrth lunio polisi addysg. Hwn fydd y tro cyntaf i bob un o'r pedwar comisiynydd ymddangos ar y llwyfan gyda'i gilydd.
Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru;
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol;
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg;
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Cyflwynir y noson unwaith eto gan newyddiadurwaig ITV Cymru Wales, Catrin Haf Jones.
Bydd y drysau yn agor am 6:30pm ar gyfer cofrestru a lluniaeth. Gwahoddir y gynulleidfa i gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar ôl i bob un o'r pedwar comisiynydd siarad. Yna, cynhelir sesiwn rwydweithio gyda drysau'n cau am 9pm.
Mae'r tocynnau am ddim a gallwch eu harchebu yma. Nodwch fod y tocynnau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, ac eu bod yn debygol o werthu allan yn gyflym.
Dilynwch yr hashnod #SiaradProff17 am y newyddion diweddaraf am y digwyddiad hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio digwyddiadau@cga.cymru neu drwy ffonio 029 2046 0099.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw