You are here

  1. Hafan
  2. ‘Rydyn ni i gyd yn ceisio dod at ein gilydd. Rydyn ni fel un teulu mawr’ meddai prosiect cymuned Gurnos wrth y Brifysgol Agored

‘Rydyn ni i gyd yn ceisio dod at ein gilydd. Rydyn ni fel un teulu mawr’ meddai prosiect cymuned Gurnos wrth y Brifysgol Agored

Mae digwyddiad cymunedol yn ystod yr hydref wedi helpu i ddathlu un o gymunedau mwyaf adnabyddus Cymru – y Gurnos ym Merthyr Tudful.

Daeth Dathlu Ein Gurnos â thrigolion ynghyd i siarad am eu hardal, i goffáu’r hyn sy’n ei gwneud yn arbennig, a thrafod sut yr hoffent iddi edrych yn y dyfodol. Ymhlith rhai o’r materion cyffredin yr oeddent yn eu trafod oedd graffiti, sbwriel, esgeuluso mannau gwyrdd – yn ogystal â’u balchder yn y Gurnos.

Bu dros 500 o bobl cymryd rhan mewn dros 45 o weithdai a gweithgareddau. Roedd 17 o sefydliadau partner a gweithwyr proffesiynol lleol hefyd yn cefnogi'r diwrnod.

Croesbeillio

Cynlluniwyd y digwyddiad yn dilyn cydweithrediad rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru, cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y Brifysgol Agored, a sefydliadau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, Cartrefi Cymoedd Merthyr a phrosiect Llethrau Llon Cyfoeth Naturiol Cymru.

Trwy broses a elwir yn groesbeillio dan arweiniad y gyfadran, penderfynodd y sefydliadau partner ddefnyddio dulliau creadigol megis collage, adrodd straeon a phaentio i glywed gan drigolion.

Mae'r blogbost hwn gan Katerina Alexiou (uwch ddarlithydd STEM) yn esbonio mwy am y prosiect croesbeillio..

Staff using VR headsets
Staff proffesiynol mewn gweithdy rhith-realiti fel rhan o Greu Cyffro

‘Roedd Ein Gurnos yn wir ddathliad o’r ardal a’r bobl,’ meddai Sarah Roberts, cydlynydd partneriaethau’r brifysgol. ‘Yn dilyn proses ddylunio ar y cyd hynod gadarnhaol gyda sefydliadau ym Merthyr, roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y gweithgareddau creadigol ac yn rhannu eu profiadau.’

‘Rydym wedi dysgu llawer o’r broses hon ac yn awyddus i weld sut y gall siapio’r gwaith rydym yn ei wneud gyda lleoedd eraill yng Nghymru.’

Creu Cyffro

Roedd Dathlu Ein Gurnos yn rhan o faes gwaith sy’n gysylltiedig â phrosiect Creu Cyffro – rhaglen hyfforddi diwydiannau creadigol ym Merthyr Tudful a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Ochr yn ochr â’r digwyddiad, cyflwynodd y Brifysgol Agored yng Nghymru dri llinyn arall o waith hefyd, gan gynnwys gweithdai rhith-realiti, cerddoriaeth, ac ysgrifennu creadigol ar draws Merthyr Tudful.

Dyma ragor o wybodaeth am waith y Brifysgol Agored yng Nghymru drwy Creu Cyffro:

  • Cyflwynodd y tîm wyth gweithdy rhith-wirionedd (VR) i fyfyrwyr E-chwaraeon yn Y Coleg, Merthyr. Mae un o'r myfyriwr Celfyddyd Gain bu’n cymryd rhan bellach yn creu oriel VR o’i ffotograffiaeth. Mae'r Coleg hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio’r un meddalwedd i greu arddangosfa o'u cyrsiau i'w hanfon i ysgolion lleol.
  • Bu darlithwyr cyswllt yn y Brifysgol Agored gyflwyno 21 o weithdai cyhoeddus mewn Ysgrifennu Creadigol a Cherddoriaeth yng nghanolfan y celfyddydau a diwydiannau creadigol Redhouse, a leolir yng nghanol tref Merthyr.
  • Mynychodd saith gweithiwr proffesiynol hyfforddiant VR hefyd, gan gynnwys staff coleg, staff llyfrgell ac arweinwyr ieuenctid.

Mae Creu Cyffro wedi arwain gan Lles Merthyr. Mae'r Brifysgol Agored yn un o 10 partner cyflawni.

I glywed mwy am y rhaglen, gwrandewch ar bodlediad Creu Cyffro.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891