You are here

  1. Hafan
  2. Blog: Mae'r dyfodol yn hyblyg, mae’r dyfodol yn agored

Blog: Mae'r dyfodol yn hyblyg, mae’r dyfodol yn agored

 Grŵp o fyfyrwyr yn astudio gyda llyfrau

Pan fydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn dod yn weithredol y gwanwyn nesaf, hwn fydd ail gorff cyhoeddus mwyaf Cymru, ar ôl y GIG yn unig o ran cyllideb - a bydd penderfyniadau’r Comisiwn yn effeithio ar bob un ohonom. Bydd yn gyfrifol am drefnu ac ariannu’r holl addysg ac ymchwil ôl-16, o’r chweched dosbarth i golegau, i brifysgolion, dysgu seiliedig ar waith, ac addysg oedolion yn y gymuned. Mae creu sefydliad sydd â chylch gwaith mor eang, a gyda chynifer o randdeiliaid i’w bodloni, yn gamp a hanner, sy’n cyflwyno heriau a maglau posibl. Mae gan bawb eu barn o ran beth ddylai’r Comisiwn ei flaenoriaethu, a pha newidiadau y dylai ac na ddylai eu gwneud. Fodd bynnag, gan mai ei ddyletswydd statudol yw hyrwyddo dysgu gydol oes, mae sefydlu CTER yn cynnig cyfle go iawn inni feddwl am addysg mewn ffordd wahanol ac, efallai, sicrhau bod dysgu gydol oes yn dychwelyd i’w le cyfiawn, sef wrth galon ein diwylliant fel cenedl.

Cerith Rhys-Jones, Uwch-reolwr, Materion Allanol, y Brifysgol Agored yng Nghymru

gan Cerith Rhys-Jones, Uwch-reolwr, Materion Allanol, y Brifysgol Agored yng Nghymru

Er bod rhywfaint o waith da wedi’i wneud, gan y llywodraeth a gan ddarparwyr addysg, nid yw'r ffordd mae ein system addysg ôl-orfodol yn cael ei threfnu ar hyn o bryd yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl ddychwelyd at addysg bob hyn a hyn drwy gydol eu hoes. Mae gormod o bwyntiau o hyd lle mae dysgwyr yn gadael addysg, ar ôl cyrraedd lefel benodol yn eu dysg, cyn canfod nad oes darpariaeth uwch ar gael, er y dylai fod yno.

Ar ben hynny, er nad oes amheuaeth y bydd y model israddedig llawn amser, dros 3 neu 4 blynedd, yn parhau fel y ffurf bennaf o addysg uwch hyd y gellir rhagweld, rydym wedi cyrraedd pwynt lle, yn aml, hon yw’r unig ffurf ddichonol o addysg uwch y gall darparwyr ei chynnig. Yn anffodus, mae hynny'n golygu llai o ddewis a hyblygrwydd i fyfyrwyr, llai o gyfleoedd i ddysgu drwy gydol ein hoes, ac economi sy’n ddibynnol ar raddedigion sydd i fod wedi dysgu popeth y mae angen iddynt ei ddysgu am weddill eu hoes ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Wrth i CTER ddechrau ail-lunio pethau, yr hyn y gallwn ddechrau ei ddychmygu yw system sy'n edrych rhywbeth fel hyn:

  • Pob person yng Nghymru yn gallu ymgymryd ag addysg o safon, ar ba bynnag lefel a chyflymder, a drwy ba bynnag ddull sydd fwyaf addas iddyn nhw a’u hanghenion.
  • Llu o gyfleoedd dysgu ar gael – nad ydynt yn canolbwyntio ar ddysgu llawn amser neu wyneb yn wyneb yn unig, ond sydd â llawer mwy o gyfleoedd hyblyg a dysgu o bell.
  • Pobl yn gallu gloywi neu ychwanegu at eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy astudiaethau modwlar, neu gyrsiau byr.
  • Yn ogystal â chreu gweithwyr cyflogadwy a hynod fedrus, mae addysg ôl-16 hefyd yn creu aelodau iach, hyderus a gweithgar o gymdeithas.
  • Mae’n hawdd symud i’r cam nesaf, boed hynny ar lefel astudio uwch eto o fewn yr un pwnc neu faes, neu yn ôl ac ymlaen rhwng gwahanol lefelau mewn gwahanol feysydd.
  • Darparwyr addysg o wahanol sectorau yn cydweithio i fodloni anghenion a budd dysgwyr, cymunedau, busnesau a’r genedl yn gyffredinol.

 

Ond, mae cyflawni system o’r fath yn dibynnu ar lawer mwy nag un darn o ddeddfwriaeth (er anferthedd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022!) neu greu un corff cyhoeddus newydd. Yn wir, carreg sylfaen yr holl waith yn unig yw dirwyn CCAUC i ben a sefydlu CTER. Bydd cyflawni newid go iawn yn gofyn am amser ac ymdrech gan bawb sydd wedi buddsoddi yn ein system ôl-16. Bydd hefyd gofyn i CTER, ar ôl ei sefydlu, fod yn barod i feddwl yn feiddgar am y ffordd mae’n gweithio; bod yn barod i ailddychmygu’r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ac ailddiffinio diben a gwerth addysg drydyddol, a sut mae popeth yn plethu i’w gilydd.

Felly, dros y misoedd nesaf, wrth i ymgyngoriadau ar wahanol reoliadau ddechrau codi, ac wrth i orchmynion cychwyn gael eu gosod, mae gan bob un ohonom waith i’w wneud. Rhaid i bob un ohonom ddechrau ystyried sut ddyfodol rydym am ei weld. A ydym yn fodlon ar yr hyn sy’n bodoli eisoes? A ydym yn fodlon mai'r system sydd ar waith ar hyn o bryd yw'r system orau bosib? Neu, a ydym eisiau dewis dyfodol sy’n llawer mwy hyblyg ac agored, lle mae ennill gwybodaeth uwch yn gyson yn nod y gall pawb ei gyrraedd?

Yn sicr, byddai hynny’n gofyn am fwy o ymdrech o lawer, ond, heb os, bydd y manteision a ddaw yn sgil hyn - i ddysgwyr a myfyrwyr, darparwyr a sefydliadau, cymunedau a'r economi - yn llawer iawn mwy.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891