You are here

  1. Hafan
  2. Cannoedd o fyfyrwyr yn graddio yn seremoni’r Brifysgol Agored yng Nghymru - 50 o flynyddoedd ar ôl dyfarnu’r graddau cyntaf oll

Cannoedd o fyfyrwyr yn graddio yn seremoni’r Brifysgol Agored yng Nghymru - 50 o flynyddoedd ar ôl dyfarnu’r graddau cyntaf oll

Graddedigion er anrhydedd Norena Shopland a Tracy Pe gyda'r llywydd Nick Braithwaite

Graddiodd dros 600 o fyfyrwyr heddiw, mewn dwy seremoni yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yng Nghasnewydd, fel rhan o seremoni raddio'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Mae digwyddiad 2023 yn nodi 50 o flynyddoedd ers seremoni raddio gyntaf y Brifysgol Agored yn Alexandra Palace, Llundain, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC2.

Yn ystod seremonïau'r bore a’r prynhawn, cerddodd myfyrwyr ar draws lwyfan yr ICC i dderbyn eu graddau gan Ddeon Gweithredol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg y Brifysgol Agored, yr Athro Nicholas Braithwaite.

Graddiodd Chloe Jackson-Nott, 28, o Gwmbrân gyda BA mewn Rheoli Busnes. Mae hi’n dioddef o feigryn cronig, a chafodd drafferth addasu i fywyd ar safleoedd prifysgolion. Gwelodd fod model hyblyg y Brifysgol Agored yn fwy addas ar ei chyfer.

'Roeddwn yn gallu gweithio yn fy amser fy hun ac astudio ymlaen llaw os oeddwn i’n gwybod y buaswn yn brysur yr wythnos ganlynol. Roedd graddau’r gefnogaeth yn rhyfeddol,' dywedodd Chloe. 'Os oedd angen mwy o amser neu gymorth arnaf, yr oll oedd angen i mi ei wneud oedd gofyn.

Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi gwneud cais ac wedi cael fy nerbyn am interniaeth yn ystod fy misoedd olaf o astudio. Yn ystod cyfnod cyflwyno fy aseiniad terfynol, cefais gynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni ac rwy’n dal i weithio iddynt mewn swydd uwch.

Chloe Jackson-Nott

'Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi gwneud cais ac wedi cael fy nerbyn am interniaeth yn ystod fy misoedd olaf o astudio. Yn ystod cyfnod cyflwyno fy aseiniad terfynol, cefais gynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni ac rwy’n dal i weithio iddynt mewn swydd uwch.'

Graddiodd Mark Crothers, 25, o Benarth, drwy raglen radd nyrsio y Brifysgol Agored.

'Gwnaeth fy newid mewn ffyrdd na allaf i fyth egluro,' dywedodd Mark. 'Rwy’n teimlo fy mod yn berson hollol wahanol er gwell ac yn gwella'n barhaus. Roedd y Brifysgol Agored yn swnio fel yr opsiwn mwyaf hyblyg a deniadol, felly dyna pam y dewisais y llwybr hwn i fyd nyrsio.'

Ymunodd dau o raddedigion er anrhydedd â Chloe a Mark: Tracy Pike MBE, Prif Swyddog Gweithredol Connecting Youth, Children and Adults (CYCA), a’r awdur a hanesydd Norena Shopland.

Mae Norena Shopland yn awdur a hanesydd, sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o fewn hanes Cymru. Mae ei gwaith yn cynnwys Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales, y gwaith cyntaf ar hanes cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd Cymru, a’r pecynnau cymorth rhyngwladol boblogaidd Queering Glamorgan ac A Practical Guide to Searching LGBTQIA Historical Records.

Chloe Jackson-Nott yn sefyll o flaen y ffenestr i'r brif neuadd

Yn 2021, comisiynwyd Norena gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant LHDTC+ i lyfrgelloedd lleol, amgueddfeydd ac archifau ar hyd a lled Cymru. Mae wedi bod ar y Rhestr Binc, sef rhestr o bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol Cymru, o 2019 i 2023.

'Roedd fy ngwraig, fel llawer o bobl, yn gweithio'n llawn amser ac wedi gwneud gradd gyda'r Brifysgol Agored felly rydym yn falch iawn o barhau â'n cysylltiad â sefydliad o'r fath,' esboniodd Norena 'Gwnaeth ei gradd am hwyl, ond i eraill, mae'n llwybr pwysig i ddatblygiad gyrfa a chyflogaeth ac yn y byd hwn sy'n newid yn gyflym, yn gyfle gydol oes i newid llwybrau gyrfa neu i roi cynnig ar feysydd newydd.

'Mae dysgu yn cydio amdano chi, fel rwy’n siŵr y byddai’r rhai sydd wedi graddio yn cytuno, felly da iawn nhw. Byddwch yn falch o’ch cyflawniadau, a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu.'

Dechreuodd Tracy Pike ei gyrfa fel athrawes ym 1979, gan fynd ymlaen i weithio fel pennaeth gofal bugeiliol mewn ysgol uwchradd. Ar ôl gadael ei swydd fel athrawes i fagu ei theulu, aeth ati i astudio rheoli straen gyda’r Brifysgol Agored, ac yna sefydlodd ei busnes ei hun yn hyfforddi cannoedd o staff y GIG.

Tracy oedd yr ymgynghorydd rheoli straen cyntaf i weithio gyda meddygon teulu Llanelli i gynnig dulliau o reoli straen ar bresgripsiwn. Ym 1997, aeth i weithio gyda Connecting Youth, Children and Adults (CYCA) fel cydlynydd ysgol ar gyfer clybiau dysgu. Daeth Tracy â’i brwdfrydedd dros reoli gwytnwch i’r rôl a hyd yma mae hi wedi llwyddo i sicrhau dros chwe miliwn o bunnoedd o gyllid ar gyfer cynnig cymorth a chwnsela llesiant am ddim i blant a’u teuluoedd. Daeth yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2002, ac yn 2018 derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i blant a’u teuluoedd.

'Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y radd meistr er anrhydedd hon gyda’r Brifysgol Agored,' meddai Tracy. 'Roedd fy nghymhwyster ffurfiol cyntaf ar ôl gadael addysgu gyda’r brifysgol ac mae’i hegwyddorion dysgu wedi’u rhaeadru i filoedd o ddysgwyr.

'Mae wedi bod yn bleser cael gweld staff o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn dyst uniongyrchol i rai o’r dysgwyr yn CYCA sydd wedi elwa ar fy egwyddorion ac arferion o reoli straen.

'I gyd-raddedigion, dilynwch eich angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’n beth ysbrydoledig a gwerth chweil i gael gweld y newid.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891