You are here

  1. Hafan
  2. Chwe rheswm pam y dylech ystyried gradd-brentisiaeth

Chwe rheswm pam y dylech ystyried gradd-brentisiaeth

Gliniadur gyda côd

1. Byddwch yn cael cyflog a gradd ar y diwedd.

Mae’r enw ‘gradd-brentisiaeth’ yn disgrifio’r trefniant i’r dim – byddwch yn dechrau gweithio i sefydliad am gyflog a byddwch yn astudio ar yr un pryd; ac yna, ar y diwedd, byddwch yn cael gradd newydd sbon danlli!

‘Yr hyn wnaeth fy nghymell i astudio gradd-brentisiaeth oedd y ffaith y gallwn astudio a gweithio’n llawn-amser ar yr un pryd,’ medd Alex Hogg, prentis yn Hyfforddiant Cambrian. ‘Hefyd, caiff gradd-brentisiaethau eu hariannu’n llwyr, felly dyw fy mhrentisiaeth ddim yn costio’r un geiniog i mi, ac mae fy nghyflogwr yn fy nghefnogi trwy ganiatáu imi neilltuo 20% o fy amser gwaith tuag at astudio bob wythnos.’

Mae hi’n wythnos genedlaethol prentisiaethau 2024!

Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddysgu pethau newydd, dechrau gyrfa newydd a helpu cwmnïau i ddatblygu eu staff. Yn yr erthygl hon, nodir rhai rhesymau pam y dylech ystyried astudio prentisiaeth – neu roi prentisiaeth ar waith yn eich sefydliad.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, gall darpar athrylithoedd technegol ennill BSc Anrhydedd mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol. Mae’r cymhwyster hwn yn cyfuno gwaith academaidd gradd tra’n rhoi cyfle ichi roi’r pethau a ddysgwch ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn (cewch ragor o wybodaeth am hyn yn nes ymlaen).

2. Byddwch yn cael cymorth gan y llywodraeth.

Un o’r pethau cyntaf y meddyliwn amdano wrth ystyried astudio rhywbeth newydd yw sut ydym yn mynd i dalu am yr astudiaeth. Yn achos myfyrwyr y Brifysgol Agored sy’n astudio graddau safonol, mae llawer o gymorth ar gael – o fenthyciadau i grantiau cynhaliaeth.

Mae gradd-brentisiaethau’n fforddiadwy hefyd. Yng Nghymru, caiff prentisiaethau gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a chaiff y prentis gyflog i fynd adref gydag ef!

3. Mae prentisiaethau’n amlbwrpas ac yn hyblyg.

Pan feddyliwch am ‘brentisiaeth’, efallai y gwelwch berson ifanc yn ei swydd gyntaf erioed. Ond mewn gwirionedd, mae llawer o brentisiaid yn weithwyr proffesiynol profiadol sy’n awyddus i wella’u sgiliau neu newid eu gyrfa. Hefyd, mae’n ffordd wych i gwmnïau feithrin doniau newydd.

‘Mae’n gyfle unigryw i wella ac amrywiaethu sgiliau ein gweithlu presennol,’ medd Gary Hall o Gyngor Dinas Abertawe. ‘Er bod absenoldeb gweithiwr profiadol am un diwrnod o hyfforddiant yr wythnos yn fwy o her na phrentis newydd, mae’r manteision yn yr hirdymor yn sylweddol. Bydd galluoedd gwell a sgiliau newydd y gweithiwr ar ddiwedd y brentisiaeth yn esgor ar werth sylweddol i’n tîm a’n gweithrediadau.’

4. Byddwch yn cael profiad ymarferol.

Bob tro yr arferwn glywed y gair ‘prentisiaeth’, roeddwn yn fy nychmygu fy hun fel person ifanc 16 oed, heb lawer o arian, ar waelod y sefydliad. Ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir. Heriwch eich hun. Byddwch yn siŵr o ddysgu sgiliau newydd ac agor cyfleoedd newydd.

Chris Hopkins, Virgin Atlantic Airways

Dyma un o’r agweddau gorau ar fod yn brentis. Bydd y cyflogwr a’r coleg neu’r brifysgol yn gweithio gyda’i gilydd i greu pecyn hyfforddi y gellir ei roi ar waith yn ymarferol. Byddwch yn mynd i’r afael â phethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cwmni, a byddwch yn dod i ddeall llawer am y diwydiant rydych wedi’i ddewis.

‘Mae fy mhrentisiaeth wedi fy natblygu’n broffesiynol yn sgil dysgu sgiliau newydd fel peirianneg meddalwedd a thechnegau rheoli prosiectau y gallaf eu defnyddio yn y gweithle,’ medd Alex. ‘Yn ddi-os, mae’r brentisiaeth wedi fy helpu i fod yn fwy trefnus, ar lefel broffesiynol ac ar lefel bersonol.’

 

 

5. Gall prentisiaethau helpu i feithrin doniau a thimau.

Mae prentisiaethau’n ffordd wych i fusnesau gyflwyno doniau newydd i’r busnes. Gallant hyrwyddo gweithlu amrywiol a diwylliant sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad parhaus. I lawer o sefydliadau, maen nhw wedi bod yn fuddsoddiad strategol da.

‘Ers dechrau integreiddio prentisiaid, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn cynhyrchiant a chreadigrwydd,’ medd Gary. ‘Mae eu parodrwydd i ddysgu a defnyddio sgiliau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddynameg ein timau a’r llif gwaith yn gyffredinol.’

6. Mae pawb ar eu hennill.

Un rheswm pam y mae gradd-brentisiaethau wedi dod mor boblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw’r ffaith eu bod o fudd i’r gymuned ehangach. Mae a wnelo gradd-brentisiaethau â chyflwyno dysg i ragor o bobl a helpu i wella cadernid gweithluoedd.

Yn ôl adroddiad Baromedr Busnes y Brifysgol Agored yn 2023, mae 75% o sefydliadau’n brin o sgiliau, ac mae 43% wedi methu llenwi rolau gan na chawsant ddigon o ymgeiswyr.

Gan fod gradd-brentisiaethau’n rhoi cyfle i fusnesau fuddsoddi yn eu staff eu hunain, gallant fynd i’r afael â’r ‘bwlch sgiliau’ hwn yn rhannol.

I’r dysgwyr eu hunain, gall gradd-brentisiaethau eu helpu i gyrraedd eu potensial a dod o hyd i yrfa eu breuddwydion – rhywbeth na wnaethon nhw ddychmygu ei fod yn bosibl yn y gorffennol.

‘Sylwodd fy rheolwr ar fy sgiliau technegol naturiol a gofynnodd a fyddai gennyf ddiddordeb mewn cwblhau prentisiaeth,’ medd Alex arall – Alex Thompson – prentis gradd yng Ngrŵp Admiral. ‘Rydw i’n unigolyn eithaf technegol, ond wnes i ddim astudio’r pynciau angenrheidiol yn yr ysgol ar gyfer dilyn gyrfa dechnegol. Mae fy rôl bresennol wedi fy ngalluogi i gael cipolwg ar swydd dechnegol, ac mae hyn o ddiddordeb mawr imi.’

Os hoffech gael sgwrs ynglŷn â gradd-brentisiaeth a gweld a yw’n iawn i chi, anfonwch e-bost at hannah.cole@open.ac.uk

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891