You are here

  1. Hafan
  2. Cyfarwyddwr newydd yn ymuno â'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Cyfarwyddwr newydd yn ymuno â'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Ben Lewis

Ar 27 Tachwedd, croesawodd Y Brifysgol Agored yng Nghymru Ben Lewis fel y Cyfarwyddwr newydd.

Mae Ben yn ymuno o Brifysgol Caerdydd lle bu’n Gyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr. Mae'n olynu Louise Casella a ymddeolodd ym mis Mehefin.

David Price oedd Cyfarwyddwr Dros Dro y Brifysgol Agored yng Nghymru hyd nes i Ben gyrraedd.

'Mae'r Brifysgol Agored yn gyfystyr â'r syniad o ddysgu gydol oes,' dywedodd Ben. 'Wrth ei gwraidd mae’r gred y dylai addysg fod ar gael i bobl ble bynnag y bônt, a beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r brifysgol hon – mae niferoedd ein myfyrwyr yn uwch nag erioed, ac mae’r llywodraeth a’r llunwyr polisi’n cydnabod gwerth addysg uwch hyblyg rhan-amser.

'Diolch i David Price am ei stiwardiaeth yn ystod y cyfnod interim, ac am y croeso yr wyf wedi derbyn gan gydweithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid. Mae’n fraint cael ymuno â’r tîm hwn, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan yn y camau nesaf yn nyfodol y brifysgol.'

'Rydyn ni eisiau i fyfyrwyr gael dweud eu dweud am sut mae eu prifysgol nhw’n cael ei rhedeg, waeth beth fo’u cefndir neu ble maen nhw’n byw,' ychwanegodd Margaret Greenaway, Llywydd Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored (OUSA) o Abertawe. 'Rydym yn falch o’r berthynas gadarnhaol sydd gan OUSA â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ac rydym yn siŵr y bydd hyn yn parhau yn ystod cyfnod Ben fel Cyfarwyddwr. Croeso mawr iddo i deulu’r Brifysgol Agored!'

Bywgraffiad Ben

Daw Ben yn wreiddiol o Abergwaun yn Sir Benfro. Astudiodd Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bu’n swyddog etholedig undeb y myfyrwyr yno. Dilynwyd hyn gan amser yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) lle'r oedd yn rhan o'r Tîm Polisi Ehangu Mynediad ac yn gyfrifol am gymorth i fyfyrwyr a chyllid dysgu gydol oes. Yna bu’n gweithio i’r Comisiwn Etholiadol fel Prif Swyddog Cymru gan weithio ar draws y DU ar reoleiddio’r broses wleidyddol ac ymgysylltu â phleidleiswyr.

Ymunodd Ben â’r Brifysgol Agored yn ystod mis Tachwedd 2023 ar ôl 19 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn amrywiaeth o rolau myfyriwr-ganolog, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr. Roedd y rôl hon yn cynnwys cychwyn ac arwain datblygiad y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, rhaglen drawsnewid gwasanaeth a chorfforol gwerth £60m a gwblhawyd yn 2021. Mae datblygiadau gwasanaeth diweddar yn cynnwys Cyswllt Myfyrwyr, gwasanaeth ymholiadau aml-lwyfan integredig; ac ymagwedd unigryw at reoli argyfwng a risg myfyrwyr, Ymyrraeth Myfyrwyr, sydd bellach yn cael ei fabwysiadu gan nifer o brifysgolion eraill.

Yn ystod 2023 cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru fel Cynghorydd Polisi Arbenigol i edrych ar wella cymorth ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr addysg uwch. Cyn hyn bu'n gweithio ar ddatblygu Partneriaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru. Mae hyn wedi darparu llwybrau newydd i ofal iechyd meddwl statudol ar gyfer y myfyrwyr addysg uwch a chanddynt y problemau iechyd meddwl mwyaf difrifol ar draws y rhanbarth. Yn ystod 2023 darparwyd cyllid gan CCAUC i gwmpasu datblygiad y bartneriaeth fel rhaglen genedlaethol ar gyfer pob dysgwr ôl-16 yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod. Roedd Ben yn aelod o Grŵp Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch Prifysgolion y DU a gychwynnodd y gwaith o ddatblygu model ‘Stepchange, ’ strategaeth iechyd meddwl prifysgol gyfan.

Bu’n aelod bwrdd ar gyfer AMOSSHE The Student Services Organisation am wyth mlynedd ac yn Gadeirydd y sefydliad o 2012 i 2016. Ef oedd Cadeirydd cyntaf Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru (WISE Cymru), partneriaeth rhwng y sector ac UCM Cymru, o 2014 i 2017. Ef yw Cyfarwyddwr Ewropeaidd presennol y Gymdeithas Ryngwladol Materion a Gwasanaethau Myfyrwyr.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891