You are here

  1. Hafan
  2. Cyhoeddi ymddeoliad cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Cyhoeddi ymddeoliad cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, wedi cyhoeddi y bydd hi’n camu’n ôl o’i swydd, ac yn ymddeol ym mis Mehefin 2023.

Ers ymuno ar ddechrau 2018, mae Louise wedi arwain y Brifysgol Agored yng Nghymru drwy gyfnod o dwf sylweddol – yn cynyddu niferoedd myfyrwyr o thua 7,500 o ddysgwyr yn 2018 i dros ddwbl hynny i 15,500 yn 2023, yn ymestyn y cyrhaeddiad daearyddol i bob awdurdod lleol ledled Cymru, a gwneud dysgu gydol oes hyblyg yn hygyrch i bawb yng Nghymru.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd wedi cyflwyno datblygiadau newydd a chyffrous dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys dulliau addysg broffesiynol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus arloesol gyda Thystysgrif Addysg Ôl-raddedig newydd sy’n galluogi graddedigion i astudio’n hyblyg, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac ymuno â’r proffesiwn addysgu, dulliau addysg nyrsio newydd ac ehangu’r ddarpariaeth gwaith cymdeithasol yn ogystal â Phrentisiaeth Gradd newydd mewn Peirianneg Gymhwysol.

Yn 2020, pan ddaeth y pandemig coronafeirws i'r amlwg, ar gais y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, Louise oedd cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol, yn pennu sut fyddai cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn cael eu dyfarnu yng Nghymru ar ôl canslo'r arholiadau.

Louise yw un o’r arweinwyr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y maes addysg uwch yng Nghymru, wedi gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru ers 1988. Yn flaenorol, mae hi wedi gweithio fel Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a Chyfarwyddwr Datblygiad Strategol Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Louise Casella:

“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd, gan fy mod yn gwybod fy mod yn camu’n ôl o un o’r swyddi gorau a mwyaf boddhaol yn y maes addysg yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o waith y Brifysgol Agored yng Nghymru – diolch i waith caled fy nghydweithwyr a’n partneriaid yng Nghymru, rydym wedi llwyddo i ymestyn ein cyrhaeddiad a helpu cymaint o bobl, na fyddent efallai wedi ystyried astudio mewn prifysgol, i ddechrau ar daith dysgu sy'n newid byd.

“Ar ôl treulio dros bymtheg mlynedd ar hugain yn gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru, rwyf mor falch bod fy swydd olaf wedi bod yn y Brifysgol Agored, sefydliad sy’n ymgorffori’r cyfle a’r newid byd mae addysg yn ei gynnig. Byddaf yn drist iawn o ffarwelio â’r brifysgol a’r tîm arbennig rwy’n ei adael ar ôl, fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen yn arw at anturiaethau gwahanol gyda’m teulu a’m ffrindiau.

“Rwy’n dymuno’r gorau i’r Brifysgol Agored ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n bendant y bydd fy nghydweithwyr yn penodi ymgeisydd arbennig i barhau i ddatblygu’r sefydliad yng Nghymru.”

Ychwanegodd Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored:

"Mae Louise wedi gwneud cyfraniad rhagorol i Gymru, Tîm Gweithredol y brifysgol a’r Brifysgol Agored yn ehangach, gan gynnwys twf sylweddol yn nifer y myfyrwyr, cyllid grant newydd, rheoli a chefnogi staff a myfyrwyr drwy’r pandemig, meithrin cysylltiadau newydd a sefydlu PolicyWISE, ein menter newydd ledled y DU sy’n hyrwyddo ymchwil polisi cyhoeddus a rhannu gwybodaeth, yn ogystal ag ymgymryd â rolau polisi pwysig yng Nghymru. Ar ran y Tîm Gweithredol a theulu ehangach y Brifysgol Agored, hoffwn ddiolch iddi am ei chyfraniadau, a dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol, ac ymddeoliad hir a hapus.”

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891