You are here

  1. Hafan
  2. Helpu cymunedau Cymru i ymgysylltu â’u treftadaeth

Helpu cymunedau Cymru i ymgysylltu â’u treftadaeth

Menyw yn dal darn bach o gelf i fyny

Yn gynharach yn 2023, derbyniodd y Brifysgol Agored yng Nghymru grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect treftadaeth, REACH Cymru (Preswylwyr sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth). Wedi’i wneud yn bosibl gan arian a gasglwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi pobl mewn pum ardal yng Nghymru i ddefnyddio celfyddydau creadigol i archwilio cysylltiadau â hanes eu cymuned leol.

  • Yng Ngwynedd, ymunodd y Brifysgol Agored yng Nghymru, tai Adra, Amgueddfa Lechi Cymru, Yr Orsaf ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd â thrigolion ym Mhenygroes, cyn-bentref chwarel llechi. Fe wnaethon nhw ddarganfod bryngaerau lleol o’r Oes Haearn, ymweld â’r hen chwarel, creu celf llechi ac archwilio byw’n gynaliadwy trwy erddi gwyllt a chymunedol.
  • Yng nghefn gwlad Sir Benfro, edrychodd trigolion ar hanes cymdeithasol llai adnabyddus yn Nhyddewi, rhywogaethau arfordirol ymledol a chynaliadwyedd, a sut i ddefnyddio ‘Cynefin’ ac ‘ein lle’ i ysbrydoli ysgrifennu creadigol a phaentio. Roedd hwn yn gydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored gyda thai ateb, awdurdod Parc Arfordirol Sir Benfro ac EcoDewi.
  • Yn ardal Butetown yng Nghaerdydd, daeth trigolion o dras Somalïaidd, Arabaidd ac Yemenïaidd ynghyd â’r Brifysgol Agored yn nhai Taf Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gymunedol Butetown. Trwy ysgrifennu creadigol, celf a hen luniau, ac archwilio adfywiad bywyd gwyllt y dociau, buont yn cofio dociau Butetown ac yn edrych ar amlddiwylliannedd a hunaniaeth.
  • Ymunodd trigolion ym Mhort Talbot â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, tai Linc Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Sandfields i edrych ar hanes cudd a hynafol yr ardal. Aethant ar daith o amgylch y darganfyddiadau lleol yn Amgueddfa Abertawe, cynllunio gardd gymunedol a chreu celf a rhyddiaith sy'n cysylltu bywydau lleol y gorffennol a'r presennol.
  • Bu pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn archwilio'r cysylltiadau rhwng treftadaeth leol a hanes naturiol drwy'r celfyddydau gweledol. Hwyluswyd hyn gan Innovate Trust, Cymdeithas Tai First Choice ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

‘Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol,’ meddai arweinydd academaidd y Brifysgol Agored yng Nghymru, yr uwch ddarlithydd Richard Marsden. ‘Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd trwy dreftadaeth a’r celfyddydau creadigol, tra ar yr un pryd yn dysgu mwy am sut a pham mae’r gorffennol yn bwysig i bobl, ac mae wedi bod yn wych clywed straeon pobl a gweld cymaint o syniadau gwych yn codi o weithdai'r cyfnod datblygu.

‘Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd y cam nesaf yn ei gynnig wrth i ni gefnogi cyfranogwyr i archwilio, creu, arddangos a chadw hanes a threftadaeth eu cymuned eu hunain.’

Camau nesaf

Rydym wedi darganfod straeon gwych, trysorau lleol a thalentau cudd trwy ein gweithdai datblygu ac wedi defnyddio barn ac awgrymiadau trigolion i ddylunio cam cyflawni’r prosiect.

Ruth Poultney
Rheolwr prosiect

Mae'r tîm yn dod â'r cyfnod datblygu i ben gyda digwyddiad dathlu teulu-gyfeillgar ym mhob cymuned. Bydd y rhain yn dod â hanes lleol a chelfyddydau creadigol ynghyd ac yn caniatáu i drigolion fyfyrio ar y prosiect hyd yn hyn, cydweithio ar gynlluniau ar gyfer ei gyflawni a dathlu eu treftadaeth a’u doniau.

‘Rydym wedi darganfod straeon gwych, trysorau lleol a thalentau cudd trwy ein gweithdai datblygu ac wedi defnyddio barn ac awgrymiadau trigolion i ddylunio cam cyflawni’r prosiect,’ meddai rheolwr y prosiect, Ruth Poultney. ‘Mae’r digwyddiadau dathlu yn ffordd wych o ddod â cham cyntaf REACH Cymru i ben ac arddangos y gorau o’r cymunedau sydd wedi croesawu’r prosiect a rhannu eu treftadaeth gyda ni.’

Mae’r Brifysgol Agored yn gwneud cais am grant pellach gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i barhau i gyflawni’r prosiect ledled Cymru.

Bydd y cam cyflawni yn gweld y Brifysgol Agored yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai, Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chasgliad y Werin Cymru. Bydd y cam hwn yn parhau am ddwy flynedd.

Dros y cyfnod hwn bydd y prosiect yn cyflwyno gweithdai archaeoleg, hanes lleol, hanes naturiol a chelfyddydau creadigol yn y cymunedau sy’n cymryd rhan, gan orffen gyda chyfres o arddangosfeydd personol a digidol. Bydd y rhain yn dathlu treftadaeth pob ardal trwy waith pobl leol.

Mae REACH Cymru yn estyniad cenedlaethol o raglen BG REACH y Brifysgol Agored yng Nghymru, (a ariennir gan URKI) a gefnogodd drigolion ym Mlaenau Gwent i archwilio eu hanes.

Asesir ceisiadau grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £250,000 mewn dwy rownd. Yn wreiddiol, cafodd REACH Cymru gefnogaeth ar gyfer y cyfnod datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Ebrill 2023, gan ganiatáu iddo symud ymlaen â’i gynlluniau. Yna caiff cynigion manwl eu hystyried gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn yr ail rownd ym mis Tachwedd, lle gwneir penderfyniad terfynol ar gyllid llawn cyfnod cyflawni 2 flynedd.

Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y Deyrnas Unedig i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi dros £43 biliwn ar gyfer prosiectau ac mae mwy na 635,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ledled y Deyrnas Unedig.

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLotteryHeritageFund

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891