You are here

  1. Hafan
  2. Myfyrwyr o Gymru yn ennill grant i gefnogi eu syniadau busnes

Myfyrwyr o Gymru yn ennill grant i gefnogi eu syniadau busnes

Mae tri myfyriwr o’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ennill grant i gefnogi eu syniadau busnes fel rhan o gystadleuaeth a gynhelir gan y Brifysgol Agored ar gyfer fyfyrwyr entrepreneuriaid - sef yr Open Business Creators Fund. Allan o 175 o ymgeiswyr, mae’r enillwyr o Gymru yn ymuno â 14 o entrepreneuriaid o’r Brifysgol Agored a lwyddodd hefyd i dderbyn grant.

Cymorth i deuluoedd

Bu i Rachel Griffin, sy’n fyfyriwr Seicoleg â Chwnsela, ennill grant yn y categori Serious, ar gyfer busnesau sydd wedi bod yn gweithredu am lai na blwyddyn. Mi fydd hi’n derbyn grant o £5000 i ddatblygu ei ap digidol ‘Heart of Home’. Mae’r ap wedi ei gynllunio er mwyn helpu rhieni a gofalwyr proffesiynol i ofalu am berthnasau a dibynyddion sydd ag awtistiaeth.

Llun o Rachel Griffin

Dywedodd Rachel, ‘Bydd Heart of Home yn ap digidol fydd yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau. Fe’i crëwyd er mwyn darparu cymorth syml ac effeithiol ar gyfer y teulu cyfan, gan fod cefnogaeth yn cychwyn o Heart of Home. Rwyf yn falch o allu rhannu fy mod, ar y cam yma o’r daith, yn adeiladu fy ngwefan, a fydd yn barod i fynd mewn ychydig wythnosau gyda’r gallu i rannu buddion y fenter a chofrestru ymlaen llaw.  Rwyf eisoes wedi sefydlu tudalen Facebook ar gyfer fy musnes, lle rwyf wedi bod yn rhannu’r gwahanol gamau yr wyf wedi bod yn eu cymryd ar fy nhaith i wireddu Heart of Home.’

Mae’r Gronfa OBC yn gystadleuaeth sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill grant i ddod yn entrepreneuriaid a rhoi hwb cychwynnol i’w syniadau.

Lleihau gwastraff

Mae'r categori Curious yn cefnogi myfyrwyr sydd â syniadau busnes sydd yn y camau cynnar o’u datblygiad, neu sydd dan ystyriaeth ers peth amser. Roedd dau fyfyriwr o Gymru ymhlith yr enillwyr yn y categori hwn: James Benson, myfyriwr Baglor mewn Peirianneg, a enillodd y grant ar gyfer ei fusnes cyflenwi coed, The Second Chance Sawmill. Wedi ei lleoli yn ne Cymru, mae’r felin lifio wedi ymrwymo i leihau dibyniaeth y DU ar fewnforio coed, yn ogystal â lleihau gwastraff.

Llun o Daniel Richard

Y syniad busnes arall o Gymru i ennill yn y categori hwn oedd ‘Mallard’, a ddatblygwyd gan Daniel Richard o Went, sy’n fyfyriwr Seicoleg. Nod Mallard yw cynnig gwasanaethau proffesiynol yn creu a golygu cynnwys ar gyfer busnesau, gweithwyr llawrydd ac awduron. Bydd y ddau enillydd yn derbyn grant o £1000 i’w helpu i ddatblygu eu syniadau.

'Diolch i’r grant gan yr Open Business Creators Fund, gallwn o’r diwedd ddechrau paratoi ein gweithdy a dechrau adeiladu'r felin lifio' meddai James, sefydlwr Second Chance Sawmill, 'bydd hyn yn ein galluogi i droi coed a fyddai fel arall wedi eu torri’n goed tân, i gynhyrchion hyfryd a fydd yn para am oes.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891