You are here

  1. Hafan
  2. Pedair o bob pump o fenywod a merched yng Nghymru wedi derbyn cam-driniaeth ysgrifenedig ar gyfryngau cymdeithasol

Pedair o bob pump o fenywod a merched yng Nghymru wedi derbyn cam-driniaeth ysgrifenedig ar gyfryngau cymdeithasol

Menyw yn crio yn dal ffôn symudol
  • ​Mae 81% o fenywod a merched yng Nghymru yn cael eu cam-drin trwy destun ar y cyfryngau cymdeithasol ar ffurf negeseuon trydar, Facebook a negeseuon uniongyrchol, ac roedd bron i hanner rhain (48%) hefyd yn rhywiol anweddus.
  • Mae tua 1 ym mhob 5 (17%) o fenywod a merched yng Nghymru a’r Alban wedi dioddef trais ar lein, i gymharu â 15% yn Lloegr a 12% yng Ngogledd Iwerddon.
  • Pobl ddieithr yw bron i dri chwarter o’r rhai sy’n cyflawni trais ar lein (73%) ac mae dros hanner ohonynt (56%) yn ddefnyddwyr dienw.

Mae ystadegau dychrynllyd o astudiaeth fwyaf erioed yn y DU i drais ar lein yn erbyn menywod a merched (OVAWG) yn dangos taw Cymru a’r Alban yw’r gwledydd sy’n cael eu taro'r gwaethaf gan y broblem, gyda dros 17% o fenywod a merched Cymru a’r Alban yn dweud eu bod wedi profi trais ar lein i gymharu â 15% yn Lloegr a 12% yng Ngogledd Iwerddon.

Ar gyfer menywod a merched yng Nghymru sydd wedi profi trais ar-lein, derbyniodd pedwar o bob pump (81%) gamdriniaeth ysgrifenedig ar gyfryngau cymdeithasol trwy drydar, negeseuon Facebook a negeseuon uniongyrchol, a phrofodd bron i hanner (48%) gamdriniaeth rywiol anweddus.

Amlygodd pobl yng Nghymru a holwyd nifer o ffactorau yr oeddent yn credu oedd yn ysgogi'r cyflawnwyr. Dywedodd 50% o’r rhai a holwyd y gall y rhai sy’n cyflawni trais a chamdrinwyr ar-lein aros yn ddienw, a dywedodd 48% fod cyflawnwyr yn gwybod na fyddant yn cael eu herlyn am y troseddau hyn.

Roeddent yn cytuno nad oes gan Wasanaeth Erlyn y Goron ddigon o adnoddau (50%) i helpu'r rhai sydd wedi profi trais ar-lein.

'Ergyd sylweddol i iechyd a lles'

Dywedodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yn Y Brifysgol Agored, fod bron i draean (32%) o fenywod wedi profi trais ar-lein am ddim rheswm heblaw bod yn fenyw.

Yn aml, mae pobl yn profi cam-drin a thrais ar-lein gan ddieithriaid llwyr (73%).

Mae hanner y menywod a merched sydd wedi profi trais ar-lein wedi derbyn cynnwys rhywiol anweddus, gan gynnwys aflonyddu rhywiol a bygythiadau ar-lein (50%).

Mae’r sawl sydd wedi’u heffeithio gan drais ar lein wedi dioddef ergyd sylweddol i’w hiechyd a lles y (57%), ac maen nhw’n cofio teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ail-werthuso eu parodrwydd i siarad yn agored ar lein (35%). I lawer, mae profiadau o drais ar lein yn lledu i’w bywydau pob dydd, gan fwrw cysgod dros eu bywyd cymdeithasol (25%).

O feddwl am y lefelau brawychus hyn, mae nifer llethol o bobl Cymru a arolygwyd yn credu bod angen gwneud rhagor ar lein ac yn y byd go iawn i atal a lleihau trais ar lein yn erbyn menywod a merched (62%).

O ganlyniad i ddiffyg hyder yn y ddeddfwriaeth gyfredol, mae menywod a merched sydd wedi profi trais ar lein yn aml yn dewis ffeilio adroddiad gyda darparydd y platfform trwy eu mecanwaith adrodd (57%) yn hytrach na mynd yn syth i’r heddlu (10%), ond hyd yn oed bryd hynny, roedden nhw’n dal i deimlo’n anfodlon ar ganlyniad yr adroddiad (67%).

Dewisodd chwarter o’r rhai holwyd yng Nghymru na adroddodd y peth yn uniongyrchol i ddarparydd y platfform neu’r heddlu ddweud wrth ffrindiau a pherthnasau yn lle (24%).

Mae trais ar lein yn erbyn menywod a merched yn gallu cymryd sawl ffurf, fel trolio, bygwth, cam-drin, sylwadau rhywiol digroeso, rhannu negeseuon a lluniau o rannau personol o’r corff heb ganiatâd, a llu o enghreifftiau eraill, ac mae hyn yn effeithio ar fenywod yn fyw na neb. Mae hyn yn gallu cael effaith ddifrifol ar les menywod a’u hymddygiad, gan gynnwys effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol, gorfod rhoi mesurau ar waith i’w hamddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth, a newid ym mharodrwydd neu allu rhywun i fynegi barn ar-lein.

Mae’r gwaith ymchwil yma - y cyntaf erioed i gael ei gyflawni i OVAWG ar y fath raddfa hon ar draws y pedair gwlad - yn dangos pa mor helaeth yw problem OVAWG, a bydd yn rhoi sylfaen i’r rhai sy’n llunio polisi i helpu i leihau achosion o OVAWG a gwella deilliannau ar gyfer y bobl o dan sylw.

Yr Athro Olga Jurasz,
Athro yn y Gyfraith yn y Brifysgol Agored a Chyfarwyddwr Arsyllfa Trais Ar-lein yn Erbyn Menywod, a arweiniodd y prosiect

'Mae ein bywydau yn cael eu byw fwyfwy ar-lein ac mae datblygiadau technolegol yn creu ffyrdd newydd o gyflawni trais yn erbyn menywod a merched,' meddai Andrea Simon, Cyfarwyddwr y Glymblaid Dileu Trais yn Erbyn Menywod (EVAW). 'Mae’r gamdriniaeth hon yn gysylltiedig â’r bygythiad o drais y mae menywod a merched yn ei wynebu all-lein – ni ellir ei leihau na’i anwybyddu.

'Mae’r cyfreithiau sydd gennym ar waith yn aneffeithiol o ran mynd i’r afael â thrais ar-lein yn erbyn menywod a merched – rydym yn falch o weld bod 70% o fenywod a merched yn cytuno. Rydym yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod ei chanllawiau newydd yn y Bil Diogelwch Ar-lein yn cael eu gorfodi’n effeithiol ac mor gadarn â’r Cod Ymarfer a ddatblygwyd gennym gyda phartneriaid arbenigol ac arbenigwyr cyfreithiol.'

Sialensiau Cymdeithasol Agored 

Mae’r prosiect ymchwil i OVAWG yn rhan o Raglen Sialensiau Cymdeithasol Agored y Brifysgol Agored, sydd â’r nod o daclo rhai o sialensiau cymdeithasol pwysicaf ein dydd trwy waith ymchwil ar sail effeithiau. Mae ffocws y Rhaglen ar themâu Taclo Anghydraddoldebau, Byw’n Dda a Chynaliadwyedd yn gyson ag ymgyrch y Brifysgol Agored i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.

Nod y Rhaglen yw defnyddio gwaith ymchwil rhagorol gan academyddion y Brifysgol Agored i ddatrys rhai o’r sialensiau mwyaf dybryd sy’n effeithio ar bobl ar draws y DU ac ym mhedwar ban y byd er mwyn trawsnewid bywydau a gyrru newid cymdeithasol.

Gyda chefnogaeth Rhaglen Sialensiau Cymdeithasol y Brifysgol Agored, yn 2022, lansiodd Dr Kim Barker a Dr Jurasz yr Arsyllfa ar Drais yn erbyn Menywod Ar Lein (ObserVAW). Y ganolfan yw’r cyntaf yn Ewrop i gysylltu academyddion blaenllaw, sefydliadau anllywodraethol, y rhai sy’n llunio polisi, rheoleiddwyr, ymarferwyr cyfreithiol, addysgwyr a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol i frwydro yn erbyn camdriniaeth ddigidol.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891