You are here

  1. Hafan
  2. Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad

Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad

Further education students gathered around a laptop doing a group exercise

Adroddiad newydd yn taflu goleuni ar lwybrau amgen i brifysgol 

Mae adroddiad newydd a gynhyrchwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a phartneriaid prifysgolion a cholegau eraill wedi dangos darlun cymysg ledled Cymru o ran recriwtio myfyrwyr i gyrsiau Mynediad a Sylfaen. Gall myfyrwyr sydd eisoes yn astudio'r cyrsiau hyn hefyd wynebu rhwystrau amrywiol rhag cwblhau eu dysgu, neu allu symud ymlaen i brifysgol neu addysg uwch. 

Sefydlwyd y bartneriaeth y Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad i archwilio sut mae dysgwyr dros 16 oed, ac oedolion hŷn sy’n dychwelyd i ddysgu, yn dod o hyd i leoedd ar gyrsiau Mynediad a Sylfaen, wrth ochr profiad myfyrwyr cofrestredig. 

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad yn fan hyn

Darperir cyrsiau mynediad gan brifysgolion a cholegau i roi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o ddysgu fel oedolion, ac i ddarganfod beth y gallent ei astudio yn fanylach yn y dyfodol. Gall cyrsiau sylfaen helpu myfyrwyr i mewn i addysg uwch ac astudio am radd – yn enwedig y myfyrwyr hynny sydd heb gymwysterau ffurfiol angenrheidiol.

  • Mae astudiaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, wyth partner addysg uwch (AU) a chwe phartner addysg bellach (AB) yn dangos bylchau yn narpariaeth cyrsiau Mynediad a Sylfaen ledled Cymru.
  • Mae myfyrwyr a darpar fyfyrwyr yn wynebu rhwystrau amrywiol gan gynnwys diffyg sicrwydd ariannol, a chyfrifoldebau teuluol.
  • Nid yw llawer o fyfyrwyr AB yn ymwybodol o lwybrau i AU.
  • Mae’r adroddiad yn galw am ddarpariaeth fwy hyblyg a rhan-amser, yn ogystal â chymorth i ddysgwyr ddod o hyd i gyrsiau a chyllid.

Yn dilyn ymchwil gyda myfyrwyr a staff colegau a phrifysgolion ledled Cymru, canfu tîm y prosiect fod dysgwyr ar gyrsiau Mynediad a Sylfaen yn aml yn wynebu rhwystrau penodol i ddysgu. Bydd llawer yn cael eu heffeithio gan faterion iechyd meddwl, neu'n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw.

Roedd rhwystrau eraill a nodwyd yn cynnwys heriau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau ffyrdd er mwyn cyrraedd y campysau; a diffyg darpariaeth band eang cyflym iawn yn effeithio dysgu ar-lein. I lawer o fyfyrwyr eraill, roedd y rhwystrau a’r cymhellion yr un peth – er enghraifft, roedd magu plant ifanc yn rhwystr i rai allu cofrestru ar gyfer cwrs, yn ogystal â chymhelliant i astudio a gwella eu gobeithion o gael swydd.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu sawl enghraifft o arfer da ar draws y sectorau AB ac AU, gan gynnwys allgymorth i gymunedau difreintiedig; a datblygu cysylltiadau ag ysgolion lleol.

Roedd llawer o staff a oedd yn addysgu ar gyrsiau Mynediad a Sylfaen yn dangos angerdd am eu gwaith ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr. Fodd bynnag, teimlai sawl un fod angen mwy o gymorth arnynt i recriwtio myfyrwyr i'r cyrsiau, yn enwedig o gymunedau difreintiedig a chymunedau â chysylltiadau gwael.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae:

  • datblygu adnodd Cymru gyfan ee map rhyngweithiol, i helpu dysgwyr i nodi darpariaeth Mynediad a Sylfaen ledled Cymru, a chymorth ariannol
  • gwerthuso'r cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr sy'n dymuno astudio'n rhan-amser neu gyda'r nos
  • cefnogi cysylltiadau a rhwydweithio parhaus rhwng colegau a phrifysgolion yng Nghymru, i rannu arfer gorau ac ymchwil.

Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae’r Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth Mewnwelediad ar Fynediad yn enghraifft berffaith o gydweithredu addysg ôl-16 ar waith, er budd dysgwyr yng Nghymru. Daethom â phob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a chwech o’i cholegau, ynghyd i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda’i gilydd.

"Mae'r prosiect hwn wedi canfod bod yna ystod eang o ddarpariaeth Mynediad a Sylfaen ledled Cymru. Mae yna lefel dda o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac awydd i gydweithio. Mae heriau o hyd. Mae’r adroddiad rydym yn ei lansio heddiw yn archwilio'r rhain yn fanwl o safbwynt y dysgwr a'r darparwr.

“Mae darpariaeth Mynediad a Sylfaen yn parhau i fod yn llwybr mor bwysig allan o dlodi i gynifer o bobl, felly mae’n hollbwysig yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, ein bod yn achub ar y cyfle sydd gennym yn awr, ac ar y cyd yn ymafael yn yr her o wireddu'r newidiadau y mae’r adroddiad hwn yn eu hargymell.”

Y sefydliadau partner a fu'n ymwneud â chynhyrchu'r adroddiad oedd: 

  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Cambria
  • Coleg y Cymoedd,
  • Coleg Gwent
  • Coleg Penybont
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (Prifysgol Wrecsam bellach)
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891