You are here

  1. Hafan
  2. 'Rhoddodd y Brifysgol Agored y hyder i mi gredu ynof fi fy hun'

'Rhoddodd y Brifysgol Agored y hyder i mi gredu ynof fi fy hun'

Jaime Smith

Nid oedd penderfynu astudio gradd yn benderfyniad syml. Ni chefais amser rhwydd yn yr ysgol – roeddwn allan o'r dosbarth ac yn helpu eraill ar y cyfle cyntaf. Ar ddechrau fy nhaith gyda’r Brifysgol Agored, cefais ddiagnosis o ddyslecsia ac ADD o bosibl hefyd. Roedd hyn yn newyddion da gan ei fod yn ateb llawer o gwestiynau ac rwyf bellach yn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf – rhywbeth yr oeddwn i wedi methu ei chael yn y gorffennol.

Astudiais seicoleg gyda chwnsela. Roeddwn i eisiau gallu helpu pobl i oresgyn anawsterau yn eu bywydau, yn union fel yr oeddwn innau ac eraill wedi cael profiad ohonynt. Meddyliais ‘sut ydw i am dalu am y radd hon?’, a pha un ai a oeddwn yn gallu astudio ar y lefel hon ai peidio – beth am ymrwymiadau teulu? Tawelodd fy holl bryderon ar ôl sgwrs gyda’r brifysgol. Wedi'r cwbl, nhw yw arbenigwyr darparu astudiaethau sy’n cyd-fynd â’ch bywyd. Rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu cymryd naid i'r gwyll.

Nid profiad hawdd oedd astudio’n llawn amser. Ond pan ddaeth Covid, roedd gen i rywbeth i fy nghadw’n brysur yn ystod y cyfnod clo! Dirywiodd iechyd fy rhieni a dechreuais feddwl a oedd gen i ormod ar fy mhlât a pha un ai a oeddwn i am raddio o gwbl, gan fod rhai o fy ffrindiau wedi gohirio eu hastudiaeth neu adael y cwrs am ba bynnag reswm. Serch hynny, roeddwn i’n benderfynol ac wrth fy modd yn astudio.

‘Gweld gwerth ynoch chi’ch hun’

Tawelodd fy holl bryderon ar ôl sgwrs gyda’r Brifysgol Agored. Wedi'r cwbl, nhw yw arbenigwyr darparu astudiaethau sy’n cyd-fynd â’ch bywyd. Rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu cymryd naid i'r gwyll.

Jaime Smith

Yn fy mlwyddyn olaf, cefais swydd a oedd yn talu’n dda ac a oedd yn fy nghaniatáu i weithio’n rhan amser nes i fy astudiaethau ddod i ben. Er fy mod i’n ddiolchgar iawn o’r cyfle hwn, nid oedd yn ymwneud â fy astudiaethau. Yn fuan wedyn, dechreuais deimlo dan straen a cholli golwg ar yr hyn yr oeddwn wedi bod yn gweithio tuag ato. Aeth popeth yn ormod – gofalu am fy rhieni, a phwysau fy swydd, felly cymerais ychydig o amser oddi wrth y gwaith, ac yn fuan wedyn oedd y seremoni raddio.

Cawsom ddiwrnod bendigedig mewn lleoliad arbennig, ac roedd y cwbl wedi’i drefnu’n dda iawn. Casglu a ffitio’r gynau, tynnu lluniau o’r teulu, mynd drwy ein seddi yn yr awditoriwm, yr egwyl gerddorol, y sgwrs gan y Deon ac yna ein galw ar y llwyfan... Pleser oedd gweld cynifer o raddedigion yn cael eu cyflwyno a’u cyfarch.

Yr hyn na ddisgwyliais i oedd cael fy syfrdanu’n llwyr gan araith yr unigolyn graddedig er anrhydedd, Tracy Pike o Connecting Youth, Children and Adults (CYCA) yn fy nhref enedigol, Llanelli. Nid oeddwn erioed wedi cwrdd â Tracy o’r blaen, ac nid oeddwn ychwaith wedi clywed amdani na’r elusen. Ond roedd pob geiryn ganddi yn ysbrydoledig ac roedd fel petai’n sgwrsio'n uniongyrchol â mi. Rhoddodd hyn hwb a thawelwch meddwl i mi yn syth a dyma'r oeddwn i ei angen i’m rhoi yn ôl ar y trywydd cywir. Ymhlith y geiriau a ddefnyddiodd oedd ‘Gwelwch werth ynoch chi’ch hun’, ‘Parch’, ‘10/10’, ‘defnyddiwch eich gradd’. Mae clywed am y bobl mae Tracy a’i helusen wedi’u helpu wedi fy ysbrydoli, a does dim amheuaeth eu bod wedi’u hysbrydoli hwythau hefyd a newid eu ffordd o feddwl am fywyd.

Cyfle i wirfoddoli

Ar ôl graddio, penderfynais gysylltu â Tracy i gyflwyno fy hun a dweud wrthi ei bod wedi fy ysbrydoli i barhau i ddefnyddio fy ngradd a gwneud gwahaniaeth. Rhoddodd gyfle i mi wirfoddoli yn CYCA, ac rwy’n ddiolchgar iddi am hynny. Drwy hyn cefais gyfle i ddatblygu ar y sylfeini a roddwyd i mi gan y Brifysgol Agored i barhau i ddysgu a hyfforddi er mwyn helpu eraill.

Y tîm a hithau yw'r bobl fwyaf croesawgar a chynnes eu natur y gallech chi erioed ddod ar eu traws, ac maen nhw wir yn deall y gall fod angen mwy o brofiadau arnom ar ôl graddio. Rwy’n ffodus iawn fy mod wedi cwrdd â Tracy ac rwy’n sicr y bydd graddedigion neu fyfyrwyr sydd i ddod yn elwa o’i gwybodaeth a’i geiriau o anogaeth.

Jaime Smith BSc (Anrh) Seicoleg a Chwnsela

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Menyw yn chwerthin gyda gofalwr

‘Rydw i eisoes wedi dod yn fwy hyderus’ - Mae’r rhaglen hyfforddiant yn helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr Cymru

Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.

10 Ebrill 2024
Dyn a menyw yn cael sgwrs ar safle adeiladu.

Lansio gwefan addysg newydd ar gyfer gweithwyr yng Nghymru

Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes. 

7 Mawrth 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891