You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Nyrsio yng Nghymru

Nyrsio yng Nghymru

Mae gan y Brifysgol Agored yng Nghymru gynllun gradd nyrsio, sy'n caniatáu i gynorthwywyr gofal iechyd astudio'n hyblyg ar gyfer gradd nyrsio tra'n parhau i weithio yn eu hysbyty neu gartref gofal lleol.

Mae'r rhaglen yn cwmpasu pob un o'r pedwar maes nyrsio sef:

  • Oedolion
  • Iechyd Meddwl
  • Anabledd Dysgu
  • Plant a Phobl Ifanc

Cymeradwyir pob un gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel rhan o Gwricwlwm Nyrsio’r Dyfodol.

Mae angen i fyfyrwyr gael eu cyflogi mewn rôl (GIG neu'r trydydd sector) lle maent yn darparu gofal nyrsio a gallant gael mynediad at ddwy nyrs gofrestredig i oruchwylio ac asesu.

Os ydynt yn gweithio mewn gofal preswyl ac nad oes ganddynt fynediad at ddwy nyrs gofrestredig ond eu bod am astudio ar y lefel hon gallant gofrestru ar gyfer ein Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) (T34) yn lle.

(Sylwer mai dim ond 60 credyd o’r dystysgrif hon fydd yn gymwys i’w hystyried tuag at y radd nyrsio.)

Rydym yn argymell bod ymgeiswyr yn cofrestru ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Iechyd (T01), gan ddewis yr opsiwn 16 mis yn hytrach na’r 12 mis. Mae hyn yn cynnwys dau fodiwl. Mae un ar theori, (K102) a'r llall (K104)  yn cyfuno ymarfer a theori.

Bydd myfyrwyr T01 yn astudio ar gyfer eu tystysgrif ochr yn ochr â'u swydd, ac ni fydd angen gwisg myfyriwr arnynt nac yn cael eu rhyddhau ar gyfer lleoliadau ymarfer. Bydd angen iddynt gael mynediad at oruchwyliwr am 15 awr yr wythnos yn ystod amser gwaith.

(Bydd angen gwisg myfyriwr ar fyfyrwyr nyrsio cyn-cofrestru, a bydd angen eu rhyddhau 15 awr yr wythnos i gymryd rhan yn eu lleoliadau ymarfer, yn ogystal â chael diwrnod ychwanegol i astudio â chymorth.)

Ar ôl cwblhau T01 yn llwyddiannus, mae nifer o opsiynau ar gyfer mynediad i gam 2 y radd nyrsio. Mae'r rhain yn dibynnu ar sefyllfaoedd unigol, ac yn ddibynnol ar brosesau recriwtio a dethol.

Os ydych yn a

  • darpar fyfyrwyr
  • cyflogwyr
  • staff datblygu'r gweithlu
  • rheolwyr adnoddau dynol

gallwch drafod y rhaglen gyda ni, a gallwn eich arwain drwy'r broses.

Cysylltwch â ni ar cymru@open.ac.uk  

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y gradd nyrsio.